Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Telerau ac Amodau Gwefan GwirVol:

  • Drwy lenwi a dychwelyd y ffurflen hon, rydych yn cytuno i GwirVol ddefnyddio’ch manylion cyswllt er mwyn eich hysbysu chi o weithgareddau a gwybodaeth a digwyddiadau sy’n berthnasol i GwirVol a GwirForce. Mae’r data personol wedi’i gyfyngu i enwau cyswllt, cyfeiriad, rhif ffôn a manylion cyswllt eraill.
  • Ni fydd GwirVol yn rhoi unrhyw fanylion personol i drydydd parti nad yw’n berthnasol i gynllun GwirVol.
  • Daw’r holl ddelweddau, y cynnwys a’r adnoddau yn y wefan hon dan hawlfraint GwirVol, ein partneriaid a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r cynllun, oni nodir yn wahanol ac ni chaniateir eu copïo na’u defnyddio heblaw at ddibenion GwirVol oni bai bod GwirVol yn rhoi caniatâd yn ysgrifenedig.
  • Rydym bob amser yn gwerthfawrogi eich adborth neu unrhyw awgrymiadau eraill am wefan GwirVol ond deallwch y gallem eu defnyddio heb unrhyw rwymedigaeth i’ch digolledu chi amdanynt (yn yr un modd â nad oes dim rhwymedigaeth arnoch chi i’w cynnig).

Defnyddwyr y Proffiliau (Cynghorwyr a Phartneriaid):

  • Mae defnyddwyr y proffiliau’n gyfrifol am eu tudalen broffil eu hunain a chytunant na fyddant ond yn rhoi arni gynnwys sy’n berthnasol i’w gwaith gyda GwirVol.
  • Ni fydd defnyddwyr y proffiliau’n rhoi ar eu tudalen ddim manylion personol nac yn defnyddio iaith dramgwyddus nac ymosodol.
  • Rhaid i’r holl wybodaeth a roddir ar y wefan gael ei chyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Os nad oes gennych wasanaeth cyfieithu, rhaid i chi gysylltu â thîm GwirVol ar gyfer hyn. GwirVol@wcva.org.uk.


DS: Nid yw’r safbwyntiau a fynegir ar y wefan hon o anghenraid yn adlewyrchu safbwyntiau GwirVol.
 


 
Nodi tudalennau a Rhannu