Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Y Prif Weinidog yn canmol siarter i helpu i sicrhau ‘lles cyffredin’

Mae ‘siarter yr ifanc’ a luniwyd gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi’i ganmol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones am fod ganddo’r potensial i helpu i greu ‘y math o gymunedau rydym am eu meithrin’. 

Cafodd y ‘Siarter Gwirfoddoli Ieuenctid’, a luniwyd gan y panel ieuenctid GwirForce ar ôl blwyddyn o ymgynghori gydag unigolion a grwpiau, ei gyflwyno i’r Prif Weinidog mewn cyfarfod yn ei swyddfa yn Nhŷ Hywel. 

Mae’r ddogfen yn nodi disgwyliadau’r gwirfoddolwyr ifanc, ac yn galw ar y mudiadau sy’n ymwneud â hwy – a Llywodraeth Cymru – i gydnabod manteision eu cynnwys mewn gweithgareddau. 

Mae GwirForce hefyd wedi ymgynghori â phanel o bobl ifanc yng Ngogledd Iwerddon gyda’r gobaith y bydd paneli eraill o’r gwledydd cartref hefyd yn mabwysiadu’r siarter yn yr hirdymor.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Prif Weinidog: ‘Roeddwn yn falch i gael y cyfle i gwrdd â’r gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr o GwirForce ac i dderbyn eu siarter sy’n hybu ymgysylltiad cryf rhwng busnesau lleol a phobl ifanc. 

‘Wrth wneud hyn, y gobaith yw y gellir sicrhau bod y cymunedau rydym yn byw ynddynt yn y math o gymunedau rydym yn gobeithio eu meithrin yng Nghymru; lle mae pobl yn cydweithio er lles cyffredin. Rwy’n deall bod nifer o fudiadau yn awyddus i gyfrannu at gyflawni’r addewidion yn y siarter.’
 

Cafodd y siarter ei gyflwyno gan Gadeirydd GwirForce, Steve Sellers sy’n 19 mlwydd oed, gweithiwr cymorth GwirVol a Chydlynydd Ansawdd a’r Cwricwlwm yn y mudiad cefnogi pobl ifanc, Rathbone Cymru, Christopher Partridge, Cydlynydd GwirVol Leah Doherty, a sawl aelod o GwirForce – panel o bobl ifanc rhwng 16-25 oed sy’n cynrychioli safbwyntiau gwirfoddolwyr GwirVol. 

Cafodd GwirVol ei lansio ym mis Ebrill 2009, ac mae’n bartneriaeth rhwng y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy’n cael ei arwain gan safbwyntiau pobl ifanc yng Nghymru. Dyma’r cyswllt cyntaf ar gyfer pobl a mudiadau sy’n chwilio am gyngor a gwybodaeth am wirfoddoli.
 

Mae 22 o Gynghorwyr Gwirfoddoli Ieuenctid GwirVol rhan amser wedi’u lleoli mewn canolfannau gwirfoddoli ledled Cymru i helpu i ddod o hyd i leoliadau gwirfoddoli, mudiadau i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc i wirfoddoli, a chofrestru ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm

Dywed GwirVol mai nod ei Siarter i Gymru oedd i ‘gynnal, hyrwyddo ac annog gwirfoddoli yng Nghymru mewn modd cyfannol’.
 

Ychwanegodd Steve Sellers: ‘Mae llawer o bethau gwael am bobl ifanc yn y cyfryngau, ond mae gan wirfoddolwyr ifanc y gallu i greu a datblygu dyfodol yr economi yng Nghymru gyda ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad. 

‘Gall cymunedau ledled Cymru wireddu manteision cynaliadwy uniongyrchol a thymor hwy o gyfraniadau a chyfranogiad eu pobl ifanc.’
 

Dywedodd Graham Benfield OBE, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), partner gweinyddol GwirVol: ‘Mae hon yn enghraifft wych o Gymru ar flaen y gad ym maes gwirfoddoli ieuenctid. 

‘Caiff menter GwirVol a’n panel ieuenctid GwirForce eu hariannu gan Uned y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru, ac roeddem yn awyddus i ddiolch i’r Prif Weinidog a dangos iddo rywfaint o’r gwaith gwych y mae ef a’r Llywodraeth wedi’i gefnogi’


 

Dyma'r ffeithiau
 

  • Ers 2009 mae mwy na 8,000 o bobl ifanc wedi cael eu recriwtio drwy GwirVol 
  • Caiff tua 2,500 o gyfleoedd eu creu bob blwyddyn, gyda thua 3,500 ar gael i bobl ifanc ar unrhyw adeg benodol   
  • Roedd 29% o bobl ifanc a recriwtiwyd yn 2009/10 a 26% o bobl ifanc a recriwtiwyd yn 2010/11 gan Gynghorwyr Gwirfoddoli Ieuenctid GwiVol yn bobl nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  • Mae mwy na 14,500 o bobl ifanc wedi rhoi 1,500,000 o oriau o’u hamser i wirfoddoli drwy Wobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm 
  • Bydd y bobl ifanc ganlynol yn bresennol yn y cyflwyniad yn y Senedd: Charlotte White, gwirfoddolwr gyda Barnardos Cymru; Sioned Evans, cyn gwirfoddolwr gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin sy’n gweithio i Hafan Cymru ar hyn o bryd, a Natalie Manca, sy’n gwirfoddoli gyda GwirForce ac yn gweithio yn y trydydd sector gyda phobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant 
  • WCVA yw corff ymbarél y trydydd sector yng Nghymru, ac mae ei 3,000 a mwy o aelodau yn cynnwys amrywiaeth eang o fudiadau sy'n gweithio ar faterion megis tai, adfywio economaidd, gofal plant, datblygu cymunedol, cludiant, yr amgylchedd ac iechyd 
     

 


 
Nodi tudalennau a Rhannu