Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 
Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu cyflwyniad / gweithdy er mwyn ysbrydoli’r bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw (ein cynulleidfa targed yw 16-25 oed)? Nod prosiect Dynamo (sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) yw annog pobl ifanc i godi eu dyheadau a gwireddu eu potensial ac i greu cyfleoedd cyffrous iddynt hwy eu hunain ac eraill. Pobl busnes yw Modelau Rôl sydd wedi cyflawni pethau go arbennig ym myd busnes drwy gredu ynddynt hwy eu hunain a’u syniadau. Mae eu straeon yn ysbrydoledig ac yn berthnasol i nifer o feysydd yn y cwricwlwm cenedlaethol, datblygiad personol a chymdeithasol yn ogystal â gwersi busnes. Cynhelir sesiynau mewn ysgolion, colegau neu brifysgolion neu gall sesiynau ei defnyddio fel rhan o weithgareddau ieuenctid megis clybiau, cyfarfodydd a digwyddiadau. Am fwy o wybodaeth neu i fwcio eich sesiwn am DDIM, cysylltwch â Rhian Evans (e-bost: rhian.evans@menterabusnes.co.uk, ffôn: 01970 636291).

 
Nodi tudalennau a Rhannu