Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Canolfan Ysgol Farchogaeth Arbennig Clwyd – Hyfforddiant ar gyfer y Dyfodol

Roedd derbyn cymeradwyaeth o'n cais am Grant "Cyfleoedd" Gwirfoddoli Ieuenctid GwirVol yn wir uchafbwynt mewn blwyddyn oedd wedi bod yn anodd yn ariannol yn 2010. Roedd y grant yn caniatáu i'r Ganolfan symud ymlaen gyda'r cynllun i hyfforddi grŵp o wirfoddolwyr ifanc i ddod yn hyfforddwyr cynorthwyol ac yn gynorthwywyr yn ein Grwpiau Marchogaeth ar gyfer yr Anabl.

Mae'r recriwtiaid wedi dangos brwdfrydedd a gwir awydd dysgu trwy'r rhaglen, ac felly yn gwneud her y prosiectau yn llai o ddigalonni a mwy o lwyddiant. Cafodd y rhai oedd yn cymryd rhan eu cofrestru am gwrs Lefel 1 Tystysgrif Hyfforddi Teyrnas Unedig (UKCC) a hefyd am hyfforddiant Cerdyn Gwyrdd Chymdeithasau Marchogaeth i'r Anabl (RDA).

Mae'r cwrs Lefel 1 UKCC wedi'i anelu at arwain hyfforddwyr amhrofiadol y dyfodol trwy gamau cyntaf y broses hyfforddi. Roedd y cyfranogwyr yn anelu i ddod yn Hyfforddwyr Cynorthwyol UKCC. Roedd pob cyfrannwr yn cael mentor wedi'i glustnodi iddynt ac roeddent yn cael sesiynau cyson gyda'r mentor gan weithio drwy'r portffolio. Mae'r portffolio yn rhan fawr o'r cwrs; mae'n arwain y cyfranogwyr trwy bob cam ac yn cofnodi'r holl ddysgu trwy Gynlluniwr Gweithgareddau, Taflenni Asesu Risg, Taflenni Gwerthuso a Chynlluniau Gweithrediadau'r Dyfodol. Bu'r cyfranogwyr yn mynychu cwrs Cymorth Cyntaf St John a chwrs Amddiffyn Plant yr NSPCC.

Yna roedd rhaid symud i mewn i'r ysgol dan do a chychwynnodd y cyfranogwyr hyfforddi gyda Hyfforddwr Grŵp cymwysedig a drwy wneud y holl beth yn hwyl roedd y gwirfoddolwyr wedi cynyddu hyder yn sydyn iawn ac yn mwynhau dysgu mwy o sgiliau newydd. Roedd cymryd rhan o fewn y Grwpiau RDA yn caniatáu i'r gwirfoddolwyr ifanc gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Roeddent yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau cymaint o'n marchogwyr ac yn darganfod synnwyr o gymuned.

Cam diwethaf y Lefel 1 UKCC oedd yr asesiad ffurfiol. Roedd rhaid i'r gwirfoddolwyr ifanc arddangos eu gallu i ymddwyn fel hyfforddwr cynorthwyol am bymtheg munud ar bwnc oedd yn cael ei roi iddynt ac yn gorfod cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda'r aseswr annibynnol. Roedd pob un o'r gwirfoddolwyr ifanc yn amlwg yn teimlo'n nerfus am yr asesiad ond yn dangos hyder ac ymwybyddiaeth trwy'r asesiad ac yn ateb y cwestiynau gyda dealltwriaeth glir o'r pynciau.

Gyda'r Hyfforddiant Cerdyn Gwerdd yr RDA roedd y gwirfoddolwyr ifanc yn dysgu sut i arwain ceffyl gydag, a heb, farchogwyr anabl ac i gerdded wrth ochr ceffyl pam roedd marchogwr anabl wedi'i fowntio gan ymddwyn fel cynorthwyydd i'r marchogwr os oeddent angen cysur neu gymorth. Roedd yr hyfforddiant yma hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fod o gwmpas y ceffyl a pa fath o ymddygiad sydd yn dderbyniol, a beth sydd ddim, a pa ddillad sydd yn addas ac yn briodol i fod o gwmpas ceffylau a delio gyda'r tywydd. Roedd pob cyfranogwr yn derbyn cofnod o'r hyfforddiant yma wedi'i arwyddo gan Addysgwr Hyfforddiant cymwysedig.

Yn ystod yr holl hyfforddiant roedd pob un o'n gwirfoddolwyr ifanc yn gweithio gyda Grŵp RDA ac roedd yr holl oriau gwirfoddol yn cael eu cofnodi a'i defnyddio fel tystiolaeth tuag at y cymwysterau. Hyd yn hyn mae pymtheg o wirfoddolwyr wedi'u recriwtio ar y cwrs. Mae naw ohonynt rhwng 16 a 25. Oherwydd newid yn swydd Rheolwr Canolfan roeddem wedi gwneud cais am estyniad i gyfnod y grant ac rydym nawr yn rhedeg y cwrs tan fis Mawrth 2012. Rydym yn chwilio i recriwtio mwy ym mis Medi ac rydym yn hyderus bydd yr 11 lle sydd ar ôl i'r rhai 16 i 25 oed yn cael ei lenwi.

Mae'r grant wedi cynhyrchu grŵp o bobl ifanc sydd wedi'i hyfforddi yn dda gyda chymhwyster sydd yn gallu mynd gyda nhw i mewn i wirfoddoli pellach ac i mewn i'r gweithle. Mae'r gwirfoddolwyr ifanc wedi dod yn hyfforddwyr cynorthwyol gyda Grwpiau RDA, trefnwyr grwpiau ac yn helpu gyda marchogaeth a sesiynau llofneidio marchog.

Roedd dau aelod o staff y Ganolfan yn cysgodi'r sesiynau mentora ac wedi dod yn fentoriaid hyfedr fydd yn cael eu defnyddio mewn sesiynau hyfforddi'r dyfodol.

Ar y cyfan mae'r grant wedi bod yn llwyddiant enfawr mewn darparu hyfforddiant gwirfoddolwyr ifanc a staff y ganolfan. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dros 175 o farchogwyr a llofneidwyr ond hefyd mae wedi gwneud gwir wahaniaeth i'r bobl ifanc eu hunain. Yn cymryd y camau cyntaf tuag at y symudiad o addysg i gyflogaeth neu o ddiweithdra i gyflogaeth wrth ddatblygu sgiliau newydd a dangos craffter tuag at waith drwy wirfoddoli.


 
Nodi tudalennau a Rhannu