Gwobrau Live UnLtd Scaling Up
Mae UnLtd yn falch o gyhoeddi fod rownd 2 o'r Gwobrau Live UnLtd Scaling Up bellach ar agor! Bydd rhaid i ymholiadau cychwynnol gael eu cyflwyno erbyn dydd Gwener 5ed Awst. Os gwelwch yn dda ymwelwch â www.liveunltd.com i gyflwyno eich ymholiad cychwynnol a dweud fod gennych ddiddordeb yn y Gwobrau Scaling Up.
Bydd rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 16 a 21 oed pan maen nhw'n gwneud cais.
Argymhellir eich bod yn cysylltu gyda Amanda Everson fel Rheolwr Datblygu Cymru am eich potensial gais a'r proses cyn cyflwyno cais. Gall gysylltu â hi ar amandaeverson@unltd.org.uk neu www.facebook.com/amandaeversonunltd. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn cymwys ar ddydd Mercher 31 Awst am 5pm.
Mae ffurflen cais lawn a nodiadau arweiniad ynghyd â chyflwyniad sylfaenol i Live UnLtd ar gael isod. Mae'r wobr hon ar gael nid yn unig i gyn enillwyr Gwobrau UnLtd, ond i unrhyw berson ifanc yn y gymuned sydd yn ffitio’r meini prawf. Maent yn wobrau ledled Prydain.
Mae'r lefel gwobr yma am hyd at £10,000! Rydym yn chwilio am yr ymgeiswyr sydd efo'r potensial mwyaf i dyfu, ac sydd wedi arddangos hyn un ai gyda'i Wobr Live/Sport Relief cyntaf neu sydd wedi dod i'n sylw yn annibynnol trwy sgowtio, gair da neu gyfoed.
Os gwelwch yn dda edrychwch ar yr amserlen isod ar gyfer y broses lawn (ar gael mewn Saesneg yn unig mae'n ddrwg gennym!). Os oes gennych unrhyw gwestiynau yna gadewch i Amanda wybod.
Downloads:
Live UnLtd Scaling up Awards: Guidance Notes




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: