Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Cafwyd grŵp ieuenctid o Ferthyr Tudful ei enwi’n Gwirfoddolwyr Diogelwch Cymunedol y Flwyddyn gan Awdurdod Heddlu De Cymru.

Mae Gwirfoddolwyr Ieuenctid Forsythia GwirVol y 3G’s yn grŵp o bobl ifanc o ardal y Gurnos ym Merthyr Tydfil sy’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddoli, yn cynnwys trefnu tripiau, helpu mewn cartrefi preswyl a helpu i ddatblygu campfa gymunedol.
Enillodd y grŵp y wobr am eu hymroddiad tuag at wella’r ardal leol a’u hymrwymiad tuag at helpu pobl yn y gymuned.

Meddai aelod o’r grŵp Daniel Walsh, 18: “Mae hyn yn llwyddiant pwysig bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i beth yr ydym ni’n gwneud. Mae’n deimlad anhygoel i gael ein cydnabod am ein gwaith”

Meddai cyd aelod, Chelsey Barlow, 18: “Rydym mor hapus i gael ennill y wobr hon. Gobeithio, ar ôl clywed am ein llwyddiant, bydd pobl yn dod i ymuno a ni, a helpu’r grŵp i dyfu.”

Meddai Christopher Evans, 25, hefyd yn rhan o’r grŵp: “Hoffwn ni ddiolch i bawb sy’n gwirfoddoli fel rhan o’r grŵp. Mae’r gwaith yr ydym ni’n gwneud yn wir ymdrech tîm. Hoffwn ni hefyd ddiolch i Geraldine Maddison am ein henwebu ni. Mae hi bob amser yn cefnogi’n gwaith ni, a byth yn cael y gydnabyddiaeth mae’n haeddu.”

Meddai Aelod Awdurdod yr Heddlu Lleol, Cynghorydd Jeff Edwards: “Mae’r gwaith mae’r grŵp yma’n wneud yn ffantastig. Mae’n cael effaith positif ar fywydau nifer o bobl. Mae eu hagwedd ‘gallu gwneud’ yn cael eu trosglwyddo i lawer o bobl eraill yn y gymuned. Maen nhw’n glod i’r bobl ifanc i gyd ar draws ardal Merthyr ac yn llysgenhadon ardderchog ac yn ddelfryd ymddwyn i eraill. Mae eu gwaith pwysig yn haeddu cael ei gydnabod, ac rwy’n gyffrous eu bod wedi ennill y wobr hon.”



 


 
Nodi tudalennau a Rhannu