Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru’n gwerthfawrogi buddiannau gwirfoddoli ac yn cofrestru â chynllun sy’n gwella eu bywydau hwy eu hunain yn ogystal â rhai’r cymunedau maent yn eu cynorthwyo.

Ers ei lansio yn 2009, mae dros 8,000 o bobl ifanc wedi cael eu recriwtio gan GwirVol, partneriaeth sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i hybu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed.

Mae ymchwil ddiweddar wedi datgelu bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yng Nghymru (67% o’r ymatebwyr) yn credu bod gwirfoddoli’n ffordd o helpu’r gymuned, tra mae 46% yn ei weld fel ffordd o gael profiad ac o ddysgu sgiliau newydd.

Dangosodd arolwg o bobl ifanc sy’n cwblhau Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm, fod 70% yn nodi’r wobr ar eu CV neu mewn cais am swydd, roedd 38% yn sôn am eu profiad mewn cyfweliad am swydd ac roedd 33% yn nodi’r wobr ar eu ffurflen UCAS. Mae 94% yn gwerthfawrogi eu gwobr a byddai 96% yn argymell y rhaglen i’w ffrindiau. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni lle mae diweithdra ymhlith pobl ifanc mor uchel, mae’r wobr yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.

‘Roedd yr ymateb i’n harolygon yn wych ac mae’n dangos bod pobl ifanc yng Nghymru o’r farn bod gwirfoddoli yn broses ddwy ffordd, lle mae hwy a’r gymuned ar eu hennill yn sgil y profiad,’ meddai Leah Doherty, Cydlynydd GwirVol.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil drwy grwpiau ffocws a drefnwyd gan Dynamix, menter hyfforddi gydweithredol gweithwyr o Abertawe yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd enwau’r cyfranogwyr yn cael eu rhoi mewn het gyda deg ohonynt yn ennill tocyn anrheg i’w wario yn siopau’r stryd fawr.
Mae’r canlyniadau ar gael mewn cyfres o gyhoeddiadau, gyda gwerthusiad llawn o effaith GwirVol ers ei lansio ar gael ar-lein yn www.gwirvol.org. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys hanesion ysbrydoledig gwirfoddolwyr GwirVol, gan gynnwys rhai:

Amy o Gastell-nedd Port Talbot, sy’n gwirfoddoli gyda’r Banc Cyfleoedd Ieuenctid a Phrosiect Ymchwilwyr Ifanc y CVS – lle cafodd hyfforddiant ar hawliau plant a dulliau ymchwil. ‘Roeddwn yn gweld gwirfoddoli fel cyfle i wneud rhywbeth gwerth chweil a gwahanol, rhywbeth a fyddai’n rhoi cyfle i mi feddwl am beth y gallwn ei wneud fel gyrfa,’ meddai.

Mae Nathan o Rondda Cynon Taf yn gwirfoddoli gyda Barnardo’s. Roedd Nathan wedi rhoi cynnig ar gwrs coleg, ond effeithiodd y profiad ar ei hyder ac roedd yn teimlo bod angen iddo wneud rhywbeth gwahanol. ‘Mae gwirfoddoli wedi rhoi hwb i fy hyder ac wedi fy helpu i feddwl yn bositif unwaith eto,’ meddai.

Roedd enillwyr y gystadleuaeth yn cynnwys Stephanie o Donypandy, a ddywedodd ei bod wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd, cael cyfle i’w trosglwyddo i bobl eraill a’u ‘gweld hwythau yn ogystal â minnau’n datblygu’ wrth wirfoddoli.

Dywedodd Muzumil o Gasnewydd ei fod yn mwynhau’r cyfle i helpu pobl eraill ac roedd yn meddwl fod gwirfoddoli’n ffordd dda o ddysgu sgiliau newydd, gan ei helpu i gael profiad gwaith. Ac roedd Charlotte o Drimsaran, ger Llanelli, yn teimlo ei bod yn gallu ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ‘gwybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth’.

Cynhaliwyd arolwg arall ymhlith rhai a gafodd grantiau GwirVol er mwyn canfod eu barn am y rhaglenni grant ac i roi cyfle iddynt i ennill £200 ar gyfer eu prosiect gwirfoddoli. Y buddugwyr oedd Black Association of Women Step Out (BAWSO), sy’n cynorthwyo merched duon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd sy’n profi problemau fel trais yn y cartref ac ymddieithrio o’u cymuned leol.

Mae gwybodaeth am rownd nesaf y grantiau ar gael drwy ffonio GwirVol ar 029 2043 5751, neu e-bostio gwirvol@wcva.org.uk. Cysylltwch â Chydlynydd GwirVol, Leah Doherty am ragor o wybodaeth am y cynllun. 


 
Nodi tudalennau a Rhannu