Cystadleuaeth Enillydd: Awst
Llongyfarchiadau i Siôn, 19 oed o Gaerdydd - enillydd cystadleuaeth mis Awst!
Cafodd enw Siôn ei ddewis ar hap yn ein raffl ac enillodd docynnau rhodd i’w gwario yn siopau’r stryd fawr!
Nid yw gwirfoddoli’n beth newydd i Siôn ac mae’n rhannu ei atgofion yn eiddgar wrth sôn am yr holl waith mae wedi'i wneud.
‘Bûm yn gweithio am ddiwrnod cyfan un tro ym MaesB – roedd yn rhaid imi rannu taflenni er mwyn ceisio denu dysgwyr Cymraeg posibl a/neu athrawon Cymraeg. Dro arall, bûm yn rhoi help llaw yn yr Ŵyl Under Construction yng Nghaerdydd ac rydw i hefyd wedi trefnu gig er budd ChildLine yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Dydw i ddim yn un o Wirfoddolwyr y Mileniwm eto, ond mi fyddwn wrth fy modd yn ymuno.’




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: