Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

 

Mae grant gan fenter gwirfoddoli ymysg pobl ifanc mwyaf blaenllaw Cymru yn helpu i ariannu pobl ifanc o Gaerdydd i deithio i Sierra Leone ym mis Rhagfyr i addysgu plant sy’n byw mewn tlodi.
 

Mae GwirVol wedi dyfarnu £16,600 i alluogi’r 10 o ddynion a menywod ifanc arwain gweithdai ar sgiliau bywyd, iechyd rhywiol, maetheg a chydraddoldeb rhywiol – yr olaf drwy chwarae pêl-droed – gan roi’r cyfle i blant Freetown ddysgu sgiliau pwysig.

Bydd prosiect Sefydliad SAFE hefyd o fudd i’r bobl ifanc o Gymru, sy’n dod o gymunedau difreintiedig ac na fyddai fel arall wedi cael y cyfle i fod yn rhan o brosiect o’r fath o bosibl, drwy roi cymhelliad, grym, sgiliau a gwybodaeth iddynt.

Mae’r elusen o Gaerdydd yn un o 35 o brosiectau ledled Cymru sydd wedi cael arian o’r rownd ddiweddaraf o grantiau GwirVol. Mae rhai eraill yn cynnwys datblygu tîm o gefnogwyr cyfoed i weithio gyda phobl ifanc sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau a thrawsnewid tri safle diffaith yn ardaloedd chwarae cymunedol a lleoedd agored.

Nod Cynllun Grantiau Gwirfoddoli ymysg Pobl Ifanc GwirVol, a gaiff ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yw cefnogi’r broses o gyflwyno ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-25 oed. Ers iddo gael ei lansio ym mis Ebrill 2009, mae’r rhaglen wedi cefnogi mwy na 120 o brosiectau gwirfoddoli ymysg pobl ifanc.

 
 

Dyfarniadau Cynllun Grantiau GwirVol Medi 2011

Sefydliad SAFE - £16,600

Cafodd Sefydliad SAFE ei sefydlu yn 2005, ac mae’n darparu Cefnogaeth, Cymorth, Hwyl ac Addysg i gymunedau yn y gwledydd datblygol, ac ar hyn o bryd mae ganddo brosiectau yn Ne India, Ghana, Freetown ac Uganda.

Ar hyn o bryd mae’r bobl ifanc sy’n mynd i Sierra Leone yn cymryd rhan mewn hyfforddiant mewn dinasyddiaeth fyd-eang, sgiliau bywyd, addysg am HIV ac AIDS, maetheg a chydraddoldeb rhywiol.

Caiff y prosiect ei gefnogi gan Sefydliad Craig Bellamy, elusen a sefydlwyd gan y pêl-droediwr i roi cyfle i blant o dan anfantais yn Sierra Leone i gyrraedd eu potensial drwy chwaraeon ac addysg.

Cychwynnodd y bobl ifanc am Freetown ar 4 Rhagfyr. ‘Bydd y grant gan GwirVol yn helpu i dalu am yr hedfan, llety, bwyd a dŵr a theithio mewnol’, meddai Hannah Fitt, arweinydd y Prosiect. ‘Ni fyddai’r prosiect wedi gallu digwydd heb y cymorth hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn i WCVA a GwirVol am gefnogi’r prosiect pwysig hwn.’
Cyswllt: Hannah Fitt – 029 2036 9727; hannah@thesafefoundation.co.uk

 
Barnardos Cymru - £10,000
 

Nod Barnardos Cymru yw recriwtio a chefnogi cynddefnyddwyr gwasanaethau anabl fel gwirfoddolwyr yn Sir Benfro.
 

Caiff pobl ifanc eu recriwtio fel mentoriaid i ddefnyddwyr gwasanaethau presennol, gan gynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a’r cyfle i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol o fewn eu cymunedau.
 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Plant, Deidre Connell, sy’n rhedeg y prosiect: ‘Bydd y cyllid yn galluogi Barnardos Cymru i ddatblygu gwasanaeth presennol a arweinir gan wirfoddolwyr drwy gynnwys pobl ifanc anabl mewn ffyrdd creadigol, ymatebol.’
 

Cyswllt: Deirdre Connell - 01646 687 064; deirdre.connell@barnardos.org.uk

 

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn - £9,200

Caiff arian GwirVol ei ddefnyddio i drawsnewid tri safle diffaith yn Garden City, Sir y Fflint yn ardaloedd chwarae cymunedol a lleoedd agored.

Caiff pobl ifanc lleol eu recriwtio i arwain yn y broses o gynllunio, dylunio a chyflenwi’r prosiect yn ymarferol. Y gobaith yw cynnwys hyd at 30 o’r trigolion lleol mewn ymgynghoriad cymunedol i sicrhau y caiff eu hanghenion penodol eu diwallu, yn ogystal â rhai’r gymuned ehangach.

Y bwriad yw datblygu mentrau i leihau lefelau tipio anghyfreithlon a fandaliaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd ar y tri safle, yn ogystal â ffurfio grŵp ‘Cyfeillion’ sy’n pontio’r cenedlaethau i gydlynu a chefnogi’r gwaith cynnal a chadw a chynaliadwyedd hirdymor y safleoedd unwaith y cânt eu cwblhau.

Cyswllt: Louise Blackwell a Neil Moffatt - 01745 536913/ 01745 536828; louise.blackwell@clwydalyn.co.uk a neil.Moffatt@clwydalyn.co.uk

 
 

NewLink Wales - £8,988

Mae NewLink Wales - mudiad annibynnol sy’n ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ar hyd a lled Cymru – yn defnyddio arian GwirVol i redeg prosiect o’r enw Streetlink, a gaiff ei anelu at ddatblygu tîm o gefnogwyr cyfoed i weithio gyda phobl ifanc sydd naill ai wedi bod yn gamddefnyddwyr sylweddau hamdden neu sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn eu teuluoedd.

Caiff hwn ei gyflawni drwy gyfrwng dawnsio stryd, lle bydd y cyfranogwyr yn dysgu dawnsio a datblygu perfformiad yn cynnwys teuluoedd a chymunedau fel dysgu ehangach a chyfranogwyr. 

Cyswllt: Daljit Gill – 029 2052 9002; daljit.gill@newlinkwales.org.uk

 
 

Neuadd Goffa Trecelyn - £7,258

Neuadd Goffa Trecelyn – Neuadd Goffa a Sefydliad Trecelyn – ei nod yw recriwtio mwy o wirfoddolwyr rhwng 16 a 25 oed o fewn y mudiad, yn arbennig o fewn ei fforwm.

Bydd gan y bobl ifanc y cyfle i roi cynnig ar ystod o dasgau, yn cynnwys helpu i redeg y wefan, datblygu a darparu rhaglenni i blant a phobl ifanc, cynllunio a rheoli digwyddiadau, cynnwys y gymuned ym mhrosiect adfer y neuadd, ymchwilio i hanes y Neuadd Goffa a gofalu a chatalogio ei archif o weithiau llaw a dogfennau.

Dywedodd y gwirfoddolwr Geraint King: ‘Mae’r cyllid a ddarparwyd gan GwirVol wedi’n galluogi i dalu am gostau teithio’r gwirfoddolwyr a rhoi’r offer sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar y cyfleoedd gwirfoddoli cyffrous hyn.’

Cyswllt: Geraint King - 01495 243 252; geraint.king@newbridge-memo.co.uk


Siambr Fasnach Canolbarth a Gorllewin Cymru - £9,984

Mudiad dielw yw’r Siambr sydd â’r nod o sicrhau adfywio cymdeithasol ac economaidd mewn cymunedau ledled Gorllewin Cymru a Phowys. Nod y prosiect yw helpu pobl ifanc ar brosiect cwricwlwm amgen y mudiad (FACE), ynghyd ag ysgolion lleol, i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ôl-16 a gynigir iddynt a bod yn llwyddiannus wrth bontio at weithgareddau ar ôl y prosiect.
 

Bydd yn cyflawni hyn drwy recriwtio a chefnogi tîm o wirfoddolwyr ifanc i weithredu fel mentoriaid i gyfranogwyr presennol i’w cefnogi ar y prosiect a/neu drwy’r cyfnod pontio. Bydd hefyd yn cysylltu ag ysgolion lleol i gynnig cefnogaeth mentora i ddisgyblion sydd angen cefnogaeth i bontio at weithgareddau ar ôl ysgol.
 

Dywedodd Rheolwr y Prosiect Gerald Davies: ‘Bydd grant GwirVol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn drwy ein galluogi i benodi a chefnogi cydlynydd gwirfoddolwyr rhan-amser, yn ogystal â darparu hyfforddiant a thalu costau teithio gwirfoddolwyr ifanc.’
 

Cyswllt: Gerald Davies - 01554 779910; gdavies@mwwc.org.uk.
 

 

Mae gan GwirVol y ffrydiau ariannu canlynol:
 

· Creu Cyfleoedd. Ar gyfer mudiadau sydd am greu prosiectau neu rolau gwirfoddoli newydd i bobl ifanc; neu recriwtio rhagor o bobl ifanc i rolau gwirfoddoli presennol. Gellir gwneud cais am grant gan Creu Cyfleoedd am hyd at uchafswm o £10,000.

· Hyrwyddo. Ar gyfer mudiadau sydd am hyrwyddo manteision neu herio canfyddiadau o wirfoddoli i bobl ifanc. Mae grantiau hyd at uchafswm o £3,000 ar gael.

· Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Ar gyfer mudiadau sydd am gydnabod yr ymrwymiad y mae pobl ifanc yn ei roi i wirfoddoli drwy gynnig y wobr rhagoriaeth o 200 awr. Mae grantiau hyd at uchafswm o £10,000 ar gael.


 

Ochr yn ochr â’r pedair ffrwd uchod ceir grantiau StreetGames GwirVol. Elusen y DU yw StreetGames sydd wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd ym myd y campau mewn ardaloedd difreintiedig. Cafodd yr elusen ei lansio yn 2007 ac mae wedi bod yn helpu i wneud chwaraeon yn fwy hygyrch i bobl ifanc, waeth beth fo’u hincymau neu amgylchiadau cymdeithasol, drwy gefnogi a sefydlu prosiectau lleol ledled y DU sy’n darparu chwaraeon ar stepen y drws h.y. gweithgareddau a chwaraeon cadarnhaol a ddarperir i bobl ifanc pan maent eu heisiau, ble maent eu heisiau a sut maent eu heisiau. Gall ceisiadau grant StreetGames fod am hyd at uchafswm o £2,000. Nid oes dyddiad cau ar gyfer y grant hwn. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru eich diddordeb ewch i gwirvol.org/cy/grantiau/streetgames/


 
Nodi tudalennau a Rhannu