Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Newid BYD!

Beth am ddweud Hola wrth Fecsico yr haf yma? Gallech fod yn ymlacio ar draeth Marquelia ac yn gwarchod wyau crwbanod y môr ar yr un pryd. Neu efallai bod eich bryd ar India, gan fynychu Gŵyl y Goleuni a dysgu mwy am ddiwylliant y wlad? Na? Dim i chi. Wel, peidiwch â phoeni, beth am saffari yn Ne Affrica i roi help llaw mewn gwarchodfa i rinoserosod? A yw’r mannau pellennig yn mynnu llenwi’ch meddwl pan fyddwch yn synfyfyrio? Gall UNA Cyfnewid wireddu eich ffantasïau. Mae UNA Cyfnewid yn rhoi cyfle i bobl o bob oed brofi diwylliannau gwahanol ac i ddysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth yn y byd ar yr un pryd. Darllenwch fwy i weld sut y gallwch grwydro’r byd wrth wirfoddoli.

Ynghylch y Mudiad

Mae UNA Cyfnewid yn fudiad sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli rhyngwladol. Mae mwyafrif y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn cael eu darparu yma yng Nghymru, ond mae ganddynt nifer sylweddol o gyfleoedd gwirfoddoli tramor hefyd. Mae’n elusen gofrestredig ac mae’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli mewn hanner cant o wledydd ledled y byd. I gymryd rhan mewn llawer o’r cyfleoedd gwirfoddoli tramor, rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn, er bod ychydig o gyfleoedd ar gael i bobl ifanc 16 neu 17 oed. Mae’r rhan fwyaf o’r cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer yr oedrannau hyn yn Ffrainc neu’r Almaen. Mae’r mudiad yn recriwtio gwirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn ac mae eu gwefan yn galluogi darpar wirfoddolwyr i bori drwy’r gwahanol fathau o wirfoddoli sydd ganddynt i’w gynnig. Mae’r mudiad yn cynnig tair rhaglen:


1) Gwirfoddoli yng Nghymru

Mae tua 250 o wirfoddolwyr bob blwyddyn yn ymuno â phrosiectau 2-3 wythnos o hyd ym mhob rhan o Gymru, lle byddant yn gweithio ochr yn ochr â phobl leol mewn gweithgareddau cymunedol. Daw’r gwirfoddolwyr o dros 30 o wledydd, gan gynnwys Cymru, ac maent yn gweithio ar brosiectau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.


2) Gwirfoddoli Dramor

Mae’r ail raglen wedi’i chynllunio ar gyfer pobl sydd eisiau gwirfoddoli mewn gwlad wahanol ar brosiectau sy’n amrywio o 2 wythnos i 3 mis o hyd. I gymryd rhan yn y rhaglen hon rhaid i’r gwirfoddolwr dalu eu costau teithio eu hunain ac am bethau fel fisâu a brechiadau. Mae UNA Cyfnewid yn gofyn i’r gwirfoddolwyr dalu tua £150 i’r prosiect hefyd ac, wrth gwrs bydd angen rhywfaint o arian gwario ar y gwirfoddolwyr. Y prif bethau sy’n cael eu darparu yw llety a bwyd.


3) Gwirfoddoli â Chymorth

Mae’r rhaglen hon, sydd hefyd yn cynnwys gwirfoddoli dramor, yn cynnwys dwy ran. Y ‘Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd’ (EVS) tymor hir (6-12 mis) a’r prosiect tymor byr (2-4 wythnos) ‘Cam wrth Gam’.
Yn achos y rhaglen EVS, mae’r mudiad yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n 18-30 oed, ac mae’n glynu’n gaeth wrth y rheol honno. Mae’n cymryd tua 6 mis i drefnu’r rhaglen ac mae hefyd yn cynnwys cyfweliad wyneb yn wyneb anffurfiol er mwyn rhoi cyfle i’r mudiad a’r gwirfoddolwr ddod i adnabod ei gilydd yn well. Yn y rhaglen hon, telir am bopeth. Mae hynny’n golygu bwyd, llety, costau teithio a rhoddir lwfans personol bychan hefyd.
Mae’r prosiect ‘Cam wrth Gam’ wedi’i lunio ar gyfer gwirfoddolwyr 16-25 oed, a fydd yn ymuno fel rhan o’u datblygiad personol eu hunain, ac sy’n derbyn cymorth gweithiwr ieuenctid / cymunedol lleol. Fel gydag EVS, telir yr holl gostau, ond mae UNA Cyfnewid yn annog y sawl sy’n gwneud cais am y rhaglen ‘Cam wrth gam’ i godi arian, ond mae’r mudiad yn gosod targed hawdd ei gyrraedd o £100 i’w roi fel cyfraniad at y prosiect.

Mae UNA Cyfnewid yn pwysleisio eu bod yn agored i bob ymgeisydd, ac nid oes yn rhaid i wirfoddolwyr feddu ar unrhyw sgiliau penodol i wneud cais i’r rhaglen. Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus fynychu penwythnos o hyfforddiant cyn ei chychwyn hi am y lleoliad o’u dewis. Gall gwirfoddolwyr wneud cais ar-lein neu alw yn swyddfa UNA Cyfnewid i wneud cais am eu hantur nesaf.

Mae’r mathau o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael drwy UNA Cyfnewid yn amrywiol dros ben. Mae gwefan UNA Cyfnewid yn galluogi’r darpar wirfoddolwr i chwilio am rôl sy’n apelio atynt, ac mae cymaint o rai gwahanol ar gael fel y byddant yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth sydd at eu dant. Y categorïau sydd ar gael yw addysg, cymdeithasol, diwylliannol, adeiladu a llawer iawn mwy. Dywed Sheila Smith, Cyfarwyddwr UNA Cyfnewid, ei bod yn anorfod bod y rhaglenni’n dod â diwylliannau at ei gilydd, a’u bod yn gyfle i ddysgu am bob math o wahanol gefndiroedd a hiliau, wrth gael hwyl mewn lleoliadau cyffrous ar yr un pryd. Felly, pan ofynnwyd iddi am y gwahanol gyfleoedd a gynigir, a oedd hi’n credu y byddai un yn fwy poblogaidd na’r gweddill?


‘Mae’r rhaglen i amddiffyn wyau crwbanod y môr ym Mecsico yn un sy’n apelio. Mae’r rhaglen yn gofyn am wirfoddolwyr i warchod wyau crwbanod y môr cyn gynted ag y byddant yn cael eu dodwy ar y traeth. Mae llawer o botswyr yn dwyn yr wyau i’w bwyta, ond nid ydynt yn sylweddoli faint o niwed y mae hyn yn ei achosi i’r amgylchedd, felly bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn addysgu’r potswyr a phobl leol am bwysigrwydd amddiffyn wyau crwban y môr. Ar ôl i’r wyau ddeor, bydd y crwbanod bach yn chwilio am olau’r lleuad i’w harwain yn ôl i’r môr mawr, ond mae adeiladau sy’n agos at eu tiroedd nythu hefyd yn taflu golau ar y traeth, sy’n eu drysu ac yn ei gwneud yn anodd iddynt ganfod eu ffordd, felly mae angen i’r gwirfoddolwyr arwain y crwbanod bach drwy eu denu â golau fflachlamp.’


Gwirfoddolwyr â’u traed yn suddo i dywod gwyn cynnes, ac yn edrych allan ar y tonnau ysgafn yn torri ar y traeth wrth werthfawrogi’r haul crasboeth …..nid yw’n syndod felly pam y mae’r prosiect hwn mor boblogaidd! Fel arfer bydd gwirfoddolwyr ar brosiectau o’r fath yn cysgu mewn pebyll ar y traeth, ond bydd y llety’n amrywio o brosiect i brosiect. Gan amlaf bydd y gwirfoddolwyr yn aros mewn hosteli, pebyll neu mewn eglwysi sy’n cynnwys mannau cysgu ar gyfer pobl. Fel arfer bydd prosiectau’n darparu cegin ar gyfer y gwirfoddolwyr a bydd disgwyl iddynt baratoi eu prydau bwyd eu hunain. Bydd hyn yn brofiad coginio gwerthfawr gan y byddwch yn gweithio â gwirfoddolwyr o wahanol rannau o’r byd, felly bydd yn gyfle gwych i brofi gwahanol fathau o fwyd o wledydd eich cyd-wirfoddolwyr.

Er ei bod wedi llwyddo i’n darbwyllo ni yn swyddfa GwirVol, sut fyddai Sheila yn mynd ati i werthu’r rhaglen i ddarpar wirfoddolwyr?

‘Mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i ddod â gwahanol ddiwylliannau at ei gilydd. Mewn blynyddoedd efallai na fyddwch yn cofio’r gwaith a wnaethoch, ond byddwch yn siŵr o gofio’r bobl y daethoch ar eu traws pan oeddech ar y prosiect.’

Pwysleisiodd Sheila fod y prosiectau’n hwyl, ond tynnodd sylw hefyd at agweddau pwysig y rhaglenni hyn.

‘Mae’n gyfle i brofi diwylliannau newydd ac i ddysgu gwerthoedd newydd ac i ddod â’r gwerthoedd hynny adref gyda chi i newid ein byd.’

Er enghraifft, gallai gwirfoddolwr fod yn gweithio ar brosiect yn Ghana a dod yn ymwybodol o’r amodau gweithio caled ac annheg y mae pobl sy’n cynaeafu ffa coffi yn eu profi. Yn dilyn profiadau o’r fath, mae UNA Cyfnewid yn gobeithio y bydd gwirfoddolwyr yn troi’r hyn a all fod yn brofiadau negyddol yn rhai positif. Er enghraifft, gallant benderfynu eu bod am yfed coffi masnach deg yn unig, neu sôn wrth bobl eraill am eu profiadau. Gall gwirfoddoli ag UNA Cyfnewid ailddiffinio’ch moesau a gwneud i chi werthfawrogi diwylliannau gwahanol drwy eich profiad uniongyrchol o’r byd. Ond gall gwirfoddoli hefyd arwain at brofiadau digrif pan fyddwch yn gweithio â phobl leol, fel y dywed Sheila.

‘Euthum i India i wirfoddoli i warchod wyau crwban y môr a rhan o’r prosiect oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o beryglon cymryd yr wyau. Yr oeddem wedi trefnu cyflwyniad mewn pentref, ond gan nad oedd y bobl yn deall Saesneg bu’n rhaid i ni feimio’r cyflwyniad! Wrth lwc, yr oedd y pentrefwyr (yn enwedig y plant) wedi cael blas mawr ar y cyflwyniad er gwaethaf y diffyg cyfathrebu geiriol. Nid oedd llawer o bobl y pentref wedi gweld neb o’r Gorllewin o’r blaen, felly pan ddaethant i wybod ein bod ar ein ffordd, cafodd y gair ei ledaenu ac roedd y lle’n orlawn erbyn i ni gyrraedd. Yr oedd yn brofiad rhyfedd iawn ac ni allem lai na theimlo ein bod yn dipyn o sêr am ddiwrnod!’

Sut mae ymuno?

Yn syml iawn, mae rhaglen UNA Cyfnewid yn gyfle i bobl deithio i wlad dramor, i gael blas ar ddiwylliannau gwahanol, i gwrdd â phobl newydd ac, yn bwysicach na dim, i fod yn rhan o rywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth mewn cymuned. Beth sy’n eich rhwystro rhag bod yn rhan o hyn?!

Os hoffech ddarllen mwy am y mudiad a mynd ati i wneud cais am brosiectau YN AWR, ewch i wefan UNA Cyfnewid……..

http://www.unaexchange.org/ neu ewch i’w swyddfa yn y Deml Heddwch, Parc Cathays yng Nghaerdydd. Ar ôl i chi ddod o hyd i daith wirfoddol sy’n apelio, gallwch fod yn dweud ffarwel mewn dim o dro.
 


 
Nodi tudalennau a Rhannu