Pam Gwirfoddoli?
Mae gwirfoddoli’n gyfle i gymryd rhan. Gall ddigwydd yn eich cymuned leol neu dramor hyd yn oed! Mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd, i wneud cyfaill oes ac i gael hwyl. Mae’n golygu helpu eraill a rhoi rhywbeth yn ôl, ond nid yw hynny’n golygu na fyddwch chi’n cael dim yn ôl. Fel rhan o’ch gwaith gwirfoddol byddwch yn dysgu sgiliau newydd, ac yn derbyn cydnabyddiaeth a chymwysterau. Mae’n Cynghorwyr Gwirfoddoli Ieuenctid yn cynnig Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm i bobl ifanc sy’n barod i wneud ymrwymiad tymor hir i wirfoddoli. Mae llawer o leoliadau gwirfoddoli’n cynnig hyfforddiant a thystysgrifau yn ogystal â rhaglenni gwobrwyo eraill megis y Gwobrau Cyflawniad Ieuenctid.
Gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych i’ch helpu i ychwanegu at eich CV. A wyddoch chi fod arolwg reed o gyflogwyr yng Ngorffennaf 2009 wedi dangos bod 83% o gyflogwyr yn ystyried bod gwirfoddoli ar eich CV yn rhywbeth positif a bod 70% yn credu bod gwirfoddoli’n eich helpu i ennill cyflog uwch ac i sicrhau dyrchafiad?




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: