Os Rhowch Fe Gewch
Os Rhowch, Fe Gewch
Mae GwirVol yn cydnabod bod pobl ifanc yn dymuno ymwneud â'u cymunedau drwy wirfoddoli a'u bod yn dymuno gwneud y gorau o'r profiad hwn. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau a phrofiad a gallu dangos hyn i gyflogwyr posibl ac wrth wneud cais am grfleoedd hyfforddi ac addysg bellach. Un ffordd weladwy o wneud hyn yw drwy gwblhau dyfarniadau ac achrediad.
Mae 'Os Rhowch, Fe Gewch' gan GwirVol yn gyhoeddiad a luniwyd ar gyfer pobl ifanc er mwyn iddynt gael mynediad at y mathau hyn o gyfleoedd. Mae pobl ifanc wedi bod yn ymwneud â dyluniad a chynnwys y cyhoeddiad hwn i sicrhau ei fod mor ddefnyddiol a pherthnasol â phosibl i ddynt. Gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau ei ddefnyddio gymaint ag a wnaethom ni wrth ei ddatblygu.
![]()
Darllena'r OS RHOWCH, FE GEWCH Yma




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: