Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Statws Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm

Oes gennych chi wirfoddolwyr yn eich sefydliad sydd rhwng 14 a 25 oed?

Hoffech chi gydnabod eu cyfraniad mewn ffordd syml?

Allwch chi gynnig hyd at 200 awr o waith gwirfoddol?

Os felly, gallwch wneud cais am ‘Statws Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm’.


Mae’r rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm eisoes wedi cydnabod cyfraniad dros 14,500 o bobl ifanc yng Nghymru sydd, rhyngddynt, wedi gwirfoddoli dros 1,500,000 awr o’u hamser i dros 1,000 o sefydliadau ledled y wlad. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i chi wneud cais am grant i fod yn rhan o’r rhaglen.

Mae ‘Statws Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm’ yn rhoi’r hawl i’r sefydliadau hynny nad ydynt yn dymuno mynd drwy’r broses grantiau gystadleuol gyflwyno tystysgrifau Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Efallai bod gennych gyllid eisoes, eich bod newydd ddechrau cynnig cyfleoedd gwirfoddoli, eich bod am roi cynnig ar rywbeth newydd, neu nid ydych yn sicr y gallech ddarparu’r 200 awr sy’n ofynnol dan raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm.

Mae’r broses ymgeisio’n syml iawn – llwythwch ffurflen ‘Mynegi Diddordeb’ oddi ar y wefan hon a llenwi eich manylion. Mae croeso i chi gysylltu â Chydgysylltydd Gwirfoddolwyr y Mileniwm ar 029 20 431 728 neu drwy e-bost dheald@wcva.org.uk unrhyw bryd i gael cymorth a chyngor. Mae llawer o brosiectau’n hoffi trafod eu syniadau yn gyntaf i wneud yn siŵr eu bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir cyn dechrau llenwi’r ffurflen.

Bydd y ffurflen Mynegi Diddordeb yn rhoi rhai manylion sylfaenol iawn am eich prosiect, yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud a sut rydych yn bodloni 9 Egwyddor Allweddol rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Nid oes disgwyl i chi ysgrifennu traethawd hir yn y cam hwn, ond mae angen i ni gael amlinelliad o’ch sefydliad a syniad o sut mae rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn berthnasol i chi.

Yn y cam hwn hefyd, rydym yn gofyn am eich polisïau a’ch prosesau – mae’n bwysig iawn ein bod ni’n dawel ein meddwl y bydd darpar wirfoddolwyr yn eich sefydliad yn cael eu diogelu gan yswiriant, arferion iechyd a diogelwch, polisi amddiffyn plant ac ati.

Ar ôl i ni gael eich ffurflen Mynegi Diddordeb, bydd Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn cysylltu â chi, naill ai gyda chwestiynau am eich ffurflen neu i wneud apwyntiad i gynnal ymweliad asesu ar eich safle. Diben yr ymweliad hwn yw casglu rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd gennych i’w cynnig, gweld sut byddwch yn cefnogi ac yn datblygu gwirfoddolwyr, a thrafod unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gwaith papur neu’r prosesau sydd ynghlwm wrth y rhaglen. Ni ddylai’r ymweliad hwn bara fwy na 90 munud ac mae’n rhyw fath o brawf ansawdd cyn y caiff sefydliad ei dderbyn ar raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm.

Yna, bydd Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn gwneud argymhelliad i Grŵp Cynghori Gwirfoddolwyr y Mileniwm ynghylch p’un ai a ddylid eich derbyn ar gyfer Statws Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm ai peidio. Os ydych yn llwyddiannus, yna byddwch yn cael cytundeb yn cynnwys eich targedau ar gyfer y flwyddyn nesaf, gwybodaeth am sut i redeg y rhaglen … a dyna ni, mae rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm ar waith!

Mae Statws Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn ffordd syml a ddidrafferth o gydnabod cyfraniad eich gwirfoddolwyr. Nid yw’n eich atal rhag gwneud ceisiadau am grantiau yn y dyfodol, ond mae’n sicrhau bod eich gwirfoddolwyr yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.

Gallwch hefyd gael crysau polo a bathodynnau Gwirfoddolwyr y Mileniwm am ddim – rhaid i’r rheini sy’n cael grantiau dalu amdanynt!

Gallwch lwytho ffurflen Mynegi Diddordeb a Nodiadau Canllaw


 
Nodi tudalennau a Rhannu