Sefydliadau
Gwirfoddolwyr y Mileniwm i Sefydliadau
Diolch i’r amrediad o sefydliadau sy’n gweithredu fel ‘Partneriaid Cyflenwi’, mae rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm wedi rhedeg yn llwyddiannus iawn. Mae’r partneriaid hyn wedi ymrwymo i 9 Egwyddor Allweddol Gwirfoddolwyr y Mileniwm ac wedi cael eu cydnabod fel Cyflenwyr.
Ceir hefyd gannoedd o sefydliadau ledled Cymru sy’n elwa o gyfraniad gwirfoddolwyr ifanc a leolwyd gan y Ganolfan Gwirfoddoli leol. Ceir Canolfan Gwirfoddoli ym mhob sir yng Nghymru ac mae Cynghorydd Gwirfoddoli ymhlith Pobl Ifanc yn gweithio ym mhob un ohonynt. Gall y cynghorwyr hyn roi cyngor a chymorth i bobl ifanc o ran gwirfoddoli.
Gall gwirfoddolwyr ifanc gyfrannu egni, brwdfrydedd a diddordeb o’r newydd i’ch sefydliad. Gall hefyd fod yn gyfle da i rywun ddysgu sgiliau a fydd o gymorth iddynt er mwyn dilyn gyrfa yn eich maes gwaith. Mae gwirfoddoli yn broses ddwy ffordd a gallai’r manteision o gynnwys pobl ifanc yn eich gwaith fod yn sylweddol.
Nid oes yn rhaid i chi fod yn elusen chwaith. Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm hefyd yn agored i awdurdodau statudol a sefydliadau eraill a gyllidir gan y llywodraeth. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw bod cyfraniad gwirfoddol yr unigolyn yn cael ei gydnabod, yn hytrach na statws y sefydliad sy’n eu cefnogi. Mae gennym rywfaint o gyfyngiadau o ran yr hyn sy’n cyfri fel gwirfoddoli ac os ydych chi’n gwmni preifat dylech gysylltu â ni’n gyntaf cyn gwneud cais fel y gallwn drafod y math o gyfleoedd sydd gennych i’w cynnig.
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm wedi bod yn llwyddiant anhygoel ac rydym am ei gweld yn parhau i fod yn un o’r prif raglenni gwirfoddoli i bobl ifanc yng Nghymru – felly, os oes gennych unrhyw gwestiynau na chawsant eu hateb ar y wefan hon, mae croeso i chi gysylltu â David Heald, Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr y Mileniwm ar 029 20 431 728 neu drwy e-bost dheald@wcva.org.uk
Mae tair ffordd o fod yn rhan o raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm:–
- Gall sefydliadau wneud cais am grantiau i roi’r rhaglen ar waith yma
- Gall pobl ifanc ymweld â’u Canolfan Gwirfoddoli lleol a chofrestru gyda chynghorydd lleol i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn yr ardal. Ceir rhestr ohonynt yma
- Gall sefydliadau wneud cais i roi’r rhaglen ar waith heb orfod dilyn y broses grantiau. I gael rhagor o wybodaeth am hyn a ‘Statws Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm’ cliciwch yma
Os oes gennych gwestiynau am bolisïau ac arferion rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm, gallwch ddarllen ein dogfen sy’n cynnwys cwestiynau cyffredin ar gyfer sefydliadau. Gallwch lwytho’r ddogfen oddi ar y we yma.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: