Fod yn Wirfoddolwr y Mileniwm
Rwyf am Fod yn Wirfoddolwr y Mileniwm
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm (GM) yn rhaglen sydd wedi bod yn rhedeg ers 1998 ac yng Nghymru mae wedi helpu mwy na 14,500 o bobl ifanc ar hyd a lled y wlad i gyflawni cydnabyddiaeth am wirfoddoli mewn mwy na 1,000 o sefydliadau gwahanol. Mae GM hefyd yn rhedeg yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn Lloegr mae’r fenter ‘V’ yn defnyddio’r un egwyddorion â GM.
Beth yn union mae’n ei olygu?
Mae GM yn wirfoddolwyr sy’n gwneud ymrwymiad i wneud gwaith gwirfoddol yn ystod blwyddyn, a fydd o fudd i’w cymuned leol. Mae gan Ganolfannau Gwirfoddoli ar hyd a lled Cymru gynghorwyr arbenigol sy’n gallu eich helpu i ddod o hyd i rywbeth heriol a diddorol a rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau. Gallwch wirfoddoli mewn nifer o leoedd ar yr un pryd neu symud rhwng lleoliadau yn ystod eich 200 awr.
Ceir tystysgrif i nodi’r 50 a’r 100 awr gyntaf o wirfoddoli a bydd GM sy’n cwblhau 200 awr o wirfoddoli yn derbyn Gwobr Ragoriaeth wedi’i llofnodi gan Brif Weinidog Cymru.
Gwirfoddolwch Nawr!
Mae dwy ffordd i ddod o hyd i leoliad gwirfoddoli:
1. Cysylltwch â Chynghorwr Gwirfoddoli Ieuenctid lleol, Mae un ym mhob sir yng Nghymru.
2. Chwiliwch drwy’r gronfa ddata fawr o gyfleoedd gwirfoddoli ar-lein.
Cofiwch, mae yna fwy na 1,000 o sefydliadau yng Nghymru sydd wedi gweithio gyda GM, rydych yn sicr o ganfod rhywbeth sy’n addas i chi!
Pam ddylwn i ddod yn Wirfoddolwr y Mileniwm?
Mae’n ffordd hwyliog a buddiol o dreulio rhywfaint o’ch amser rhydd. Mae’n agor eich llygaid i bethau eraill sy’n digwydd o’ch amgylch. Gall eich herio chi, eich barn am bobl eraill, eich gwybodaeth a’ch sgiliau a gall eich helpu i ddatblygu mewn cymaint o ffyrdd. Gallwch wneud ffrindiau newydd a gall gwirfoddoli fod yn bwnc trafod gwych gyda’ch ffrindiau eraill. Gall hyd yn oed eich helpu i ystyried yr hyn yr hoffech ei wneud yn ddiweddarach yn eich bywyd a rhoi cynnig ar wahanol bethau i weld a ydych yn eu mwynhau.
Mae hefyd yn edrych yn dda ar eich CV neu os ydych yn ceisio cael lle mewn Coleg neu Brifysgol. Mewn arolwg gan asiantaeth Reed Employment, dywedodd 94% o gyflogwyr a holwyd y byddent yn cyflogi rhywun gyda gwirfoddoli ar eu CV yn hytrach na rhywun heb wirfoddoli ar eu CV, felly dylech bob amser gynnwys eich profiadau wrth wneud cais am swyddi! Mae rhai Colegau a Phrifysgolion yn cynnig GM eisoes ac felly byddant yn gyfarwydd iawn â’r rhaglen os byddwch yn ei nodi ar eich ffurflen gais.
Isod ceir rhai enghreifftiau o’r gwaith papur angenrheidiol – nid oes llawer ohono a dylai eich helpu i adlewyrchu ar eich profiad fel gwirfoddolwr hefyd. Ceir hanesion hefyd gan wirfoddolwyr eraill a’r hyn a ddigwyddodd iddynt hwy.
Ni fu amser gwell i wirfoddoli!
A wyf yn cael fy nhalu i ymuno â’r rhaglen?
Ethos y rhaglen yw gwirfoddoli felly ni fyddwch yn derbyn taliad am gymryd rhan. Fodd bynnag, byddwch yn derbyn ad-daliad o’ch costau, megis y costau o deithio yn ôl ac ymlaen i’ch lleoliad, rhai costau gofal plant ac mewn rhai achosion costau cinio a lluniaeth. Er na fyddwch yn ennill arian drwy wirfoddoli, y nod yw na fyddwch byth yn waeth eich byd yn ariannol ar ôl ei wneud.
Gallwch gael atebion i ragor o gwestiynau drwy edrych ar ein Cwestiynau Cyffredin
Llwythwch enghreifftiau o ffurflenni Gwirfoddolwyr y Mileniwm:
Esiampl: Cynllun Gwirfoddolwyr Mileniwm






Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: