Dyfodol
Dyfodol Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Lansio prosiectau Gwirfoddolwyr y Mileniwm cyffrous yn 2011
Ar ôl profi’r llwyddiannau o ran darparu gwirfoddolwyr ifanc ar gyfer Cwpan Ryder 2010 a chofrestru gwirfoddolwr rhif 1,500, mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn gobeithio mynd o nerth i nerth yn 2011.
Uno â GwirVol
O 1af Ebrill 2011, byddwn yn rhan o’r fenter GwirVol. Efallai eich bod eisoes wedi sylwi ar hyn, oherwydd wedi’r cyfan rydych chi ar wefan GwirVol! Beth am daro golwg dros weddill y wefan a gweld y gwaith y mae GwirVol yn ei wneud o ran ehangu cyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru?
MV50
Mae MV50 yn gynllun newydd sbon a luniwyd i ehangu Gwirfoddolwyr y Mileniwm i feysydd newydd a denu mwy fyth o wirfoddolwyr. Roeddem am ateb y cwestiwn – ym mha feysydd yng Nghymru mae pobl ifanc yn gwirfoddoli heb gael cydnabyddiaeth am wneud, ac efallai nad ydynt hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn ‘gwirfoddoli’?
Daeth chwe ateb i’r golwg - ym maes chwaraeon, gweithwyr yn gwirfoddoli, mewn ysgolion, tramor gwirfoddoli, a phobl ifanc rhwng 14 a 16 oed. Gwnaethom benderfynu edrych hefyd ar roi achrediad am wirfoddoli yn ogystal â’r gydnabyddiaeth a roddir gan Wirfoddolwyr y Mileniwm.
Yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin 2011 - yn ystod Wythnos Gwirfoddoli - lansiwyd ‘Chwaraeon Gwirfoddolwyr y Mileniwm’, sef y Wobr MV50 newydd gyntaf. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Nid yw hyn yn disodli’r Wobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm ‘wreiddiol’ a’r gobaith yw y bydd y rheini sy’n ennill y Wobr 50 awr (ar y cynllun Chwaraeon er enghraifft) yn mynd ymlaen i gwblhau 150 awr arall – naill ai ym maes chwaraeon neu drwy fanteisio ar gyfleoedd eraill.
O ran gweddill y meysydd, byddwn yn gweithio arnynt yn ystod 2011 a 2012 ac yn eu lansio pan fyddant yn barod. Rydym yn chwilio am brosiectau peilot mewn sawl un o’r meysydd hyn ac wrth i Wirfoddolwyr y Mileniwm dyfu … ni fu erioed gwell amser i wirfoddoli!
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm i bobl ifanc
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm i Sefydliadau




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: