Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Chwaraeon MV50

Yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin 2011, gyda chymorth Llysgenhadon Ifanc o Chwaraeon Cymru, gwnaethom gofrestru’r bobl ifanc cyntaf i weithio tuag at gyflawni’r Wobr newydd, sy’n cydnabod 50 awr o wirfoddoli mewn chwaraeon. Gallai hyn fod mewn clybiau lleol, clybiau chwaraeon, trwy ysgolion, dan arweiniad Swyddogion 5 x 60 neu mewn unrhyw leoliad cymunedol. Mae’r dystysgrif newydd yn gysylltiedig â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 drwy’r nod InspireBy ac felly dyma’r amser perffaith i gymryd rhan. Cysylltwch â’ch Canolfan Wirfoddoli leol  i gael rhagor o fanylion.

I lawrlwytho taflen a llyfryn am Chwaraeon MV50 cliciwch yma -

Taflen Gwirfoddolwyr y Mileniwm

Llyfryn Gwirfoddolwyr y Mileniwm

 

Bydd angen i chi gofrestru gyda Gwirfoddolwyr y Mileniwm drwy eich Canolfan Wirfoddoli neu’r mudiad rydych yn gwirfoddoli ag ef, ond mae’r Llyfryn yn cynnwys rhai tudalennau lle gallwch gofnodi eich oriau ar ôl i chi gofrestru. Nid oes llawer o waith papur ac mae’n broses syml. Yna, gallwch gael cydnabyddiaeth am y gwaith gwirfoddol rydych yn ei wneud!

Ar gyfer mudiadau sy’n bwriadu cofrestru fel darparwyr Chwaraeon MV50, mae Datganiad o Ddiddordeb byr i’w lenwi, Cysylltwchâ dheald@wcva.org.uk ac yna byddwn yn trefnu cyfarfod chi i egluro proses Gwirfoddolwyr y Mileniwm a’r pecyn adnoddau bydd ei angen arnoch i’w redeg.

Ariennir datblygiad Chwaraeon MV50 gan Chwaraeon Cymru. Caiff ei oruchwylio gan Grŵp Chwaraeon Gwirfoddolwyr y Mileniwm, sydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Sports Leaders UK a Street Games.

Gallwch lwytho Chwaraeon MV50 ffurflen Mynegi Diddordeb


 

 


 
Nodi tudalennau a Rhannu