GwirForce
Pwy yw GwirForce?
Panel o wirfoddolwyr rhwng 14 a 25 oed yw GwirForce, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a datblygu gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yng
Nghymru. Rydym yn benderfynol i sicrhau bod gwirfoddoli yn brofiad gwerthfawr, deniadol a HWYLIOG i bobl ifanc. Rydym wedi dwyn ein profiadau o wirfoddoli ynghyd i rannu gyda phobl ifanc eraill pa mor werth chweil a llawn hwyl yw rhoi eich amser a’ch sgiliau, ac rydym hefyd yma i sicrhau bod llais gwirfoddolwyr ifanc ledled Cymru yn cael ei GLYWED.
Beth rydym yn ei wneud?
Does dim amheuaeth ein bod yn grwˆ p prysur! Ers sefydlu GwirForce, rydym wedi llunio Siarter Ieuenctid i hyrwyddo arfer da mewn gwirfoddoli, wedi teithio i Lundain i’w chyflwyno i ddau Aelod Seneddol (yr oedd un ohonynt yn Weinidog y Cabinet), a heb anghofio
tynnu sylw yn nes at adref, rydym wedi cyflwyno ein hunain a’n siarter i Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
Rydym yn cynnal digwyddiadau blynyddol ac eleni rydym wedi penderfynu bod gwir angen cynhadledd i gynghori a goleuo ar faterion Gwirfoddoli ymysg Pobl Ifanc yng Nghymru. Rydym hefyd wedi anfon cynrychiolwyr i’r Gynhadledd Blwyddyn Wirfoddoli Ewropeaidd ym Mrwsel, i
sicrhau bod neges GwirForce yn cael ei lledaenu ymhell!
Gan nad ydym yn fudiad swil, mae GwirForce wedi gwneud ein rhaglen ddogfen ein hunain am wirfoddoli yng Nghymru... camwch ar y carped coch a dewch â’r popcorn; dyma ddathliad o’r cyfan all pobl ifanc ei gyflawni fel gwirfoddolwyr. Rydym yn grwˆ p uchelgeisiol a gyda’ch
help chi hoffwn wneud llawer, llawer yn rhagor... (Nid rheoli’r byd cyfan, ond rhywbeth tebyg).
Beth allwch chi wneud gyda GwirForce?
Pa bynnag sgiliau, diddordebau ac argaeledd sydd gennych, gallwch gymryd rhan. P’un ai er mwyn ddatblygu eich CV neu i wneud ffrindiau newydd, mae gan GwirForce amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer pobl ifanc brwdfrydig sydd am wneud gwahaniaeth. Mae’r rhestr yn
cynnwys cynllunio digwyddiadau, preswylio, creu ffilmiau, marchnata, mentora, recriwtio, y Fyddin ParT (Cyfranogi ac Ymgynghori), codi arian, pobi teisen neu ddwy hefyd efallai ond mae llawer, llawer yn rhagor – dewiswch eich maes o ddiddordeb, rhowch wybod i ni a gallwn sicrhau ein bod yn gwneud defnydd da o’ch sgiliau!
Dim llawer o amser?
Dim problem. Gallwch gofrestru i fod yn rhan o’n Sgwad Arolwg a chymryd pum munud pob hyn a hyn i roi eich barn ar y materion sy’n effeithio arnoch. Dyna ni! Dim ond un dasg y flwyddyn sydd yn rhaid i aelod o GwirForce ei gwneud i gael ei ystyried yn aelod, dim ond UN dasg!
Beth allwch chi ddisgwyl?
Fel aelod llawn o GwirForce gallwch, i ddechrau, ddisgwyl cael eich croesawu i’r teulu. Rydym o ddifrif ynghylch gwirfoddoli ond yr un mor ddifrifol am ei wneud yn hwyliog ac yn hygyrch i bawb, felly gallwch ddisgwyl ymuno â ni ar deithiau preswyl rheolaidd GwirForce. A hynny rhwng y gwaith prysur o drefnu ein Digwyddiadau Hyrwyddo nesaf, Cynllunio sut fyddwn
yn codi proffil Gwirfoddoli yng Nghymru yn ogystal â cheisio canfod y rhwystrau at wirfoddoli a’u dymchwel, gallech fwynhau byd natur gyda gweithdy sgiliau goroesi neu brofi eich gwybodaeth gyda map a chwmpawd a gwneud rhywfaint o gyfeiriadu. Mae’r gweithgareddau ar gyfer aelodau GwirForce yn amrywio o fynediad unigryw at hyfforddiant a datblygu sgiliau i fynd i gynrychioli ein mudiad ledled y wlad, hyd yn oed y byd.
IE i wirfoddoli, ond ddim yn siWˆr os hoffech fod yn aelod?
Dim problem, rydym yn hapus i hwyluso’r broses i chi! Os yw gwirfoddoli gydag unrhyw fudiad yn swnio fel syniad da ar gyfer eich CV, hoffech roi cynnig ar rywbeth newydd, cyfarfod â phobl newydd, helpu eich cymuned neu hyd yn oed os yw’n swnio fel hwyl, cysylltwch â ni i gael
cyngor a rhai awgrymiadau ar ble i ddechrau. Gall GwirForce eich rhoi ar y trywydd iawn tuag at y cannoedd o gyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru neu fel arall, rydym yma i gael sgwrs. Rydym yn hawddgar iawn, addo.
Sut allwch chi gymryd rhan?
Os ydych rhwng 14 a 25 oed ac â diddordeb mewn gwirfoddoli, byddem yn dwlu clywed gennych.
1. Cysylltwch â ni dros e-bost ar gwirforce@hotmail.co.uk ac anfonwn ffurflen gofrestru atoch i’w chwblhau a’i dychwelyd atom. Dim e-bost? Mae hynny’n iawn, siaradwch â’ch Cynghorydd Gwirfoddoli Ieuenctid lleol. Mae gan bob sir Gynghorydd Gwirfoddoli Ieuenctid penodol fydd yn gwneud ei orau i’ch helpu. Ewch i www.gwirvol.org i gael manylion cyswllt
yr holl Gynghorwyr yng Nghymru.
2. Byddwn yn cysylltu â chi i ddiolch i chi am ddangos diddordeb ac os hoffech gymryd rhan gallwn drefnu cyfarfod gydag un o’n haelodau i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd angen un neu ddau eirda arnom i sicrhau nad ydych wedi dod o blaned arall (er hynny, rydym yn croesawu Gwirfoddolwyr o blaned arall). Noder: ni allwn warantu bisgedi, ond gwnawn ein gorau.
3. Byddwn yn eich gwahodd i un o’n cyfarfodydd brecwast rheolaidd i gwrdd ag aelodau eraill a chael syniad o’r hyn rydym yn cynnig. Noder: gallwn warantu brecwast.
4. Os bydd popeth yn iawn cewch eich gwahodd i ymuno fel aelod. Croeso!
Angen rhagor o wybodaeth?
Edrychwch ar dudalennau GwirForce Facebook. Os ydych yn defnyddio Twitter, anfonwch neges atom i @GwirForce a gwnewch yn siwˆ r eich bod yn defnyddio ein hashtag #paidwithrespect.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau (ynglyˆn â gwirfoddoli yn bennaf, ond mae croeso i chi anfon rysáit teisen hefyd), cysylltwch â ni ar gwirforce@hotmail.co.uk





Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: