Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

world_dummy

Ceir nifer o gyfleoedd i gymryd rhan gyda GwirVol.

Pobl ifanc:

Gwirfoddoli: Yn gyntaf gallwch wirfoddoli! Cewch wybod am yr holl gyfleoedd sydd ar gael ar eich cyfer yng Nghymru drwy glicio yma.

Aelodau GwirForce: Mae GwirForce yn grŵp o bobl ifanc sy’n helpu i arwain y fenter GwirVol drwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd a phenderfyniadau, eistedd ar baneli grant ac ymgynghori â phobl ifanc yng Nghymru. Mae pawb sy’n aelod o GwirForce yn wirfoddolwyr rhwng 14 a 25 oed sy’n frwdfrydig dros gael pobl eraill i gymryd rhan yn eu cymunedau. I gael mwy o wybodaeth am GwirForce a sut mae cymryd rhan cliciwch yma.

Gwirfoddolwyr y Mileniwm: Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn cydnabod yr ymrwymiad parhaus mae pobl ifanc yn ei roi i wirfoddoli drwy Wobr Rhagoriaeth 200 awr wedi’i llofnodi gan Brif Weinidog Cymru. Ceir tystysgrifau carreg filltir hefyd ar gyfer 50 a 100 o oriau. Os ydych chi eisoes yn gwirfoddoli ac yr hoffech gychwyn cyfri eich oriau ar gyfer gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm cewch wybod sut mae gwneud hynny gan eich Cynghorydd Gwirfoddolwyr Ifanc Lleol. I gael gwybod mwy am gyfleoedd Gwirfoddolwyr y Mileniwm, cliciwch yma.

Hysbysiad o Gyfle Newydd! Aelodau o Banel Grant Gwirfoddolwyr y Mileniwm: Ar hyn o bryd, mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn chwilio am bobl ifanc i ddod yn rhan o’u Panel Cynghori ar Grantiau. Mae hyn yn cynnwys helpu Gwirfoddolwyr y Mileniwm i roi grantiau i fudiadau y mae angen cymorth ariannol arnynt i ddod yn bartneriaid cyflwyno. I gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais cliciwch yma.

Mudiadau:

Grantiau: Mae GwirVol yn cynnig nifer o grantiau i helpu mudiadau i feithrin gallu ac i ddatblygu rhaglenni gwirfoddoli ymysg pobl ifanc. Os gallwch gynnig cyfleoedd gwirfoddoli ymysg pobl ifanc neu os hoffech ddatblygu rhai ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru, a’ch bod yn chwilio am gymorth ariannol, ewch i’n tudalennau grantiau.

Cymryd rhan yn lleol: Gallwch gysylltu â’ch Cynghorydd Gwirfoddolwyr Ifanc lleol i gael gwybodaeth am sut mae hysbysebu eich cyfleoedd, i gael cymorth i wneud cais am grantiau, a llawer iawn mwy. Gallwch hefyd gael gwybod beth sy'n digwydd yn lleol ar y tudalennau newyddion a beth sy ’mlaen.

Gwirfoddolwyr y Mileniwm: Os oes gennych eisoes gyfleoedd sy’n addas ar gyfer pobl ifanc ac a allai gynnig 200 awr o wirfoddoli dros gyfnod o 12 mis, gallech fod yn gymwys i gael statws partner cyflwyno a chynnig y wobr i’ch gwirfoddolwyr presennol a newydd. I gael mwy o wybodaeth am sut mae dod yn bartner cyflwyno cliciwch yma.


 


 
Nodi tudalennau a Rhannu