Gwirfoddoli
Cymerwch Ran A Gwirfoddolwch Heddiw
Os hoffech ddarganfod mwy am wirfoddoli a’r miloedd o gyfleoedd sydd ar gael, cliciwch ar y botwm Gwirfoddolwch Nawr! isod fydd yn mynd â chi drwodd i’n cronfa ddata cenedlaethol o gyfleoedd. Neu gallwch gysylltu â’ch Cynghorydd Gwirfoddoli Ieuenctid a gwneud apwyntiad gyda nhw i helpu chi archwilio eich dewisiadau.
Pam Gwirfoddoli?
Mae gwirfoddoli yn gyfle i gymryd rhan. Gallai hyn fod efo’ch cymuned leol neu hyd yn oed dramor! Mae’n gyfle i gyfarfod pobl newydd, gwneud ffrindiau gydol oes a chael hwyl. Mae’n ymwneud â helpu eraill a rhoi’n ôl ond rydych chi’n cael rhywbeth yn ôl hefyd.
Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm (GM) yn rhaglen wedi’i gynllunio i adnabod a dathlu cyfraniad gwirfoddol rhai 16-25 oed dros Gymru. Amcan y rhaglen ydy i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli sydd yn gallu cynnig y cyfle i roi 200 awr o’u hamser i brosiect neu brosiectau o’u dewis.
GwirForce
Mae GwirForce yn banel amrywiol o wirfoddolwyr ifanc, digymell a hwyl 16 i 25 oed sydd yn ymrwymedig i hyrwyddo a gyrru gwirfoddoli ieuenctid yng Nghymru yn ei flaen.
Gwirfoddolwch Nawr!
Mae dwy ffordd i ddod o hyd i leoliad gwirfoddoli:
1. Cysylltwch â Chynghorwr Gwirfoddoli Ieuenctid lleol, Mae un ym mhob sir yng Nghymru.
2. Chwiliwch drwy’r gronfa ddata fawr o gyfleoedd gwirfoddoli ar-lein.






Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: