Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

I gael manylion llawn y rhaglen StreetGames yn cynnwys y broses ymgeisio a chymhwysedd grantiau gallwch lawrlwytho Canllaw StreetGames.

Ynghylch StreetGames GwirVol:

Mae StreetGames, a lansiwyd yn 2007, yn elusen sy’n gweithio yn y DU i gynyddu cyfleoedd chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig ac mae’n ganolfan arbenigedd genedlaethol i ddatblygu chwaraeon mewn cymunedau difreintiedig. Mae’r elusen yn helpu i wneud chwaraeon yn hygyrch i bob person ifanc, beth bynnag fo’u hamgylchiadau cymdeithasol neu eu hincwm, drwy gynorthwyo a sefydlu prosiectau lleol ledled y DU sy’n dod â chwaraeon at garreg y drws, h.y. gweithgareddau positif a chwaraeon sy’n cael eu darparu i bobl ifanc pan maent eu heisiau, lle maent eu heisiau ac yn y ffordd maent eu heisiau.

Mae rhaglen Gwirfoddolwyr Ifanc y Co-operative wedi’i chynllunio i recriwtio, denu a defnyddio gwirfoddolwyr ifanc gan ddefnyddio trywydd gwirfoddoli sydd wedi hen ennill ei blwyf, ynghyd ag adnoddau, canllawiau a chymorth cysylltiedig.

Mae StreetGames a GwirVol wedi dod at ei gilydd gyda chefnogaeth y Co-operative i ddatblygu rhaglen grantiau i helpu i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli mewn chwaraeon i bobl ifanc 16-25 oed yng Nghymru. Mae grantiau gwerth hyd at £2,000 ar gael i brosiectau yng Nghymru sy’n dymuno datblygu rhaglen gwirfoddolwyr ifanc y Co-operative ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed yng Nghymru. Rhaid i ardaloedd difreintiedig elwa ar y prosiectau.

Enghreifftiau o’r prosiectau y gallem ni eu cefnogi:
Gallai prosiectau StreetGames gynnwys: Cynnwys pobl ifanc fel hyfforddwyr, dyfarnwyr neu wrth drefnu gweithgareddau chwaraeon. Gallai’r chwaraeon fod yn unrhyw beth o daflu esgidiau glaw i rygbi.

Yr hyn na noddwn:
• Gweithgareddau gwirfoddoli ar gyfer y rheini nad ydynt o fewn yr ystod oedran 16-25.
• Pobl ifanc sy’n ymwneud â’r gweithgareddau fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac unrhyw waith cymunedol gorfodol ar gyfer addysg, fel profiad gwaith ar gyfer cyrsiau gradd neu ddiplomâu.

Pobl ifanc sy’n cael blaenoriaeth:
Nod GwirVol yw annog pobl ifanc sy’n llai tebygol o wirfoddoli. O ganlyniad, mae’r grantiau GwirVol hefyd yn anelu at roi blaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd gydag ystod eang o bobl ifanc (16 - 25 oed), ac ar eu cyfer, ac yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fudiadau a fydd yn gweithio gyda’r canlynol:

• Pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig: ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf yn benodol
• Pobl ifanc o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
• Pobl ifanc a chanddynt anableddau corfforol neu anableddau dysgu
• Pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
• Pobl ifanc sy’n dymuno gwirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg

A ydych yn gymwys? Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun.

1. A yw’ch mudiad yn un dielw neu’n grŵp sector cyhoeddus?
2. Allwch chi gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i15 neu fwy o bobl ifanc mewn lleoliad chwaraeon?
3. A fydd eich prosiect yn dechrau ar ôl Medi 2011 ac yn gorffen cyn 31ain Mawrth 2013?
4. A yw’ch gweithgareddau’n digwydd yng Nghymru?
5. A fydd pobl mewn ardal ddifreintiedig yn elwa ar eich prosiect?

Os felly, gallwch lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen cofrestru diddordeb nawr!

 


 
Nodi tudalennau a Rhannu