Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc – GwirVol
Ym mhob sir yng Nghymru, mae Cynghorwyr Gwirfoddoli ymysg Pobl Ifanc wedi cefnogi sefydlu Paneli Grantiau Lleol Dan Arweiniad Pobl Ifanc. Grwpiau o bobl ifanc o’r ardal leol yw’r rhain y dyrennir £5,000 iddynt ei ddosrannu drwy grantiau i weithgareddau gwirfoddoli lleol dan arweiniad pobl ifanc. Y paneli hyn eu hunain sy’n penderfynu ar feini prawf y grantiau, y grwpiau blaenoriaeth a’r broses ymgeisio. Mae hyn yn golygu fod pob ardal dan arweiniad syniadau ac anghenion pobl ifanc. I gael mwy o wybodaeth am y grant yn eich ardal chi a sut y gallwch ymgeisio, ewch i dudalen Broffil eich Cynghorydd Gwirfoddolwyr Ifanc lleol.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: