- Darllenwch y cyfarwyddyd yn ofalus
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb y cwestiynau’n glir
- Peidiwch â thybio y byddwn yn gwybod am eich mudiad neu’ch gweithgareddau.
- Rhowch y wybodaeth rydym yn gofyn amdani’n unig
- Esboniwch unrhyw fyrfoddau neu jargon.
- Glynwch at yr uchafswm geiriau os oes un
- Gwnewch yn siŵr bod eich cyllideb wedi’i dadansoddi’n iawn. Mae hyn yn golygu esbonio sut gawsoch chi’r ffigyrau hyn. Dechreuwch o sero ac ystyried yr hyn sydd ei angen arnoch, yn hytrach na dechrau gyda’r uchafswm y gallwch wneud cais amdano ac yna llunio cyllideb i gynnwys y swm cyfan.
- Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gostau yn unol â’r polisi costau
- Amgaewch yr holl ddogfennau y mae eu hangen. Oni chyflwynir yr holl ddogfennau, gallai oedi ddigwydd wrth asesu eich cais, ac oni dderbynnir hwy cyn cyfarfod y panel cynghori ar grantiau, ystyrir eich cais yn anghymwys ac ni fydd yn derbyn ystyriaeth gan y panel.
- Os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw beth, cysylltwch â thîm GwirVol – byddant ond yn rhy barod i helpu.
Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: