Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Grantiau GwirVol

STOP! Os yw’ch mudiad yn cynnwys pobl ifanc mewn chwaraeon ewch i grantiau StreetGames nawr!

Mae grantiau GwirVol nawr wedi cau. Bydd y rownd nesaf yn agor a bydd ceisiadau ar gael i’w llwytho i lawr ym Mawrth 2012.

Nod Grantiau Gwirfoddoli ymysg Pobl Ifanc GwirVol yw rhoi cymorth i gyflwyno amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli newydd yng Nghymru a thramor a fydd yn cefnogi’r newid sylweddol i bobl ifanc 16-25 oed gael gwirfoddoli, ac yn enwedig pobl ifanc dan anfantais. Mae cynllun grant GwirVol yn cynnig pedwar elfen nawdd wahanol:

Creu Cyfleoedd

Hyrwyddo

Rhyngwladol 

Gwirfoddolwyr y Mileniwm

Cyn gwneud cais am unrhyw un o’r grantiau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y daflen wybodaeth am grantiau ac os ydych yn gwneud cais ar gyfer Gwirfoddolwyr y Mileniwm, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen canllawiau penodol y cynlluniau hynny hefyd.

Llwytho’r daflen wybodaeth am grantiau i lawr.

Llwytho Canllawiau Gwirfoddolwyr y Mileniwm i lawr.

Llwytho taflen wybodaeth treuliau gwirfoddolwyr i lawr.

Llwytho taflen wybodaeth Cynnwys pobl ifanc i lawr.

Gwahanol grantiau GwirVol:

Creu Cyfleoedd: Ar gyfer mudiadau sydd am greu prosiectau gwirfoddoli newydd ar gyfer pobl ifanc, swyddogaethau gwirfoddoli newydd ar gyfer pobl ifanc, neu recriwtio mwy o bobl ifanc i swyddogaethau gwirfoddoli sydd eisoes yn bodoli. Gall ceisiadau grant Creu Cyfleoedd fod am uchafswm o £10,000.

Hyrwyddo: Ar gyfer mudiadau sydd am hyrwyddo buddion neu herio’r farn am wirfoddoli ar gyfer pobl ifanc neu ynghylch pobl ifanc, yn eu cymunedau lleol. Gall ceisiadau grant Hyrwyddo fod am uchafswm o £3,000.

Rhyngwladol: Ar gyfer mudiadau sydd am ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli dramor, sydd o fudd i bobl ifanc a’u cymunedau yng Nghymru hefyd. Gall ceisiadau grant Rhyngwladol fod am uchafswm o £30,000

Gwirfoddolwyr y Mileniwm : Ar gyfer mudiadau sydd am gydnabod ymrwymiad pobl ifanc i wirfoddoli drwy gynnig y wobr rhagoriaeth 200 awr. Gall ceisiadau grant Gwirfoddolwyr y Mileniwm fod am uchafswm o £10,000.

Yr hyn na noddwn:

• Gweithgareddau gwirfoddoli ar gyfer y rheini nad ydynt o fewn yr ystod oedran 16-25.
• Pobl ifanc sy’n ymwneud â’r gweithgareddau fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac unrhyw waith cymunedol gorfodol ar gyfer addysg, fel profiad gwaith ar gyfer cyrsiau gradd neu ddiplomâu.


 
Nodi tudalennau a Rhannu