Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Manylion cyswllt

Cyfeiriad:
Gwent Association of Voluntary Organisations,
Ty Derwen,
Church Road,
Newport,
NP19 7EJ

Rhif ffôn: 01633 241550

Cyfeiriad e-bost: amele.tukandra@gavowales.org.uk

Amdan

Fy enw yw Clare Jones a fi yw Swyddog Gwaith Gwirfoddol Ieuenctid GAVO dros Gasnewydd a Mynwy.

Fy nod yw hybu, annog a chefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, i wirfoddoli mewn ystod eang o gyfleoedd yn eu cymunedau lleol a thu hwnt.

Rwy’n gweithio o Ganolfan Wirfoddolwyr Casnweydd ar ddydd Mercher a dydd Iau er bod staff eraill y Ganolfan i Wirfoddolwyr ar gael i’ch cynghori yn fy absenoldeb.

Dyma Amseroedd Agor Canolfan Wirfoddolwyr Casnewydd:-
9.00am - 5.00pm (Llun - Iau)
9.00am - 4.30pm (Gwe)

Yn ogystal, rwy’n gobeithio gweithio gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a busnesau lleol sy’n gallu cynnig cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd i bobl ifanc, a byddwn yn croesawu gweithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth er mwyn cyflawni hyn.
Os ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr cysylltwch â mi i drafod ymhellach.

Mae GAVO hefyd yn un o’r partneriaid cydgysylltu ar gyfer y Rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Bwriedir hon yn benodol i roi cydnabyddiaeth ffurfiol i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd eisoes yn gwirfoddoli neu sy’n meddwl am wneud. Cyflwynir Tystysgrif Gydnabyddiaeth ar ôl cwblhau 50 ac yna 100 o oriau ac ar ôl i chi gyrraedd 200 awr cewch Dystysgrif Ragoriaeth wedi’i llofnodi gan Brif Weinidog Cymru. Mae’r rhaglen hefyd yn sicrhau yr ad-delir unrhyw fân-dreuliau rhesymol yr ewch iddynt yn ystod eich gwaith gwirfoddol. Cysylltwch â mi i drafod ymhellach neu i ‘gofrestru’.


 
Nodi tudalennau a Rhannu