Wythnos ar ol i enwebu eich Gwirfoddolwr y Flwyddyn
16 Ebr 2010 - 01 Ion 9999
Location:
Bydd oedolion, pobl ifanc a grwpiau sy’n rhoi oriau o’u hamser rhydd i helpu pobl eraill yn cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2010 a gynhelir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac a gefnogir gan CCLA Investment Management Ltd.
Yn 2009, cafwyd dros 200 o enwebiadau ar gyfer y pum categori, sydd wedi’u dewis er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Nghymru. Yn ogystal â chydnabod unigolion, pobl ifanc (dan 25 oed) a grwpiau, mae'r cynllun hefyd yn gwobrwyo gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr 'gwyrdd'.
Ceir hyd at dri enillydd ymhob categori, sy’n arwain at 15 enillydd cenedlaethol, a bydd yr enillwyr yn cael eu gwobrau mewn seremoni yng Nghastell Caerdydd ar 10 Mehefin, a bydd pawb a enwebir yn derbyn tystysgrifau clod mewn seremoni leol neu drwy’r post.
I enwebu, ewch i www.wcva.org.uk/voty neu galwch Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: