Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

01 Med 2011 - 01 Ion 9999

Location:

Mae Tystysgrif Addysg Uwch (AU) Sylfaen Newydd yn y Dyniaethau yr Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) wedi’i bwriadu ar gyfer pobl sy’n barod i gymryd eu camau cyntaf i AU ac ennill cymhwyster mewn amgylchedd cefnogol a chalonogol. Mae hi wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion (18 mlwydd oed ac yn hŷn) sydd am gael arweiniad pellach i astudiaethau AU.
 

Caiff y rhaglen ei dysgu ar sail ran-amser dros ddwy flynedd (30 wythnos) ac mae’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau am un diwrnod yr wythnos.


Mae’r rhaglen yn cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol ac yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu trosolwg o bynciau sy’n ymwneud â’r Dyniaethau – Seicoleg, Cynghori, Hanes, Cymdeithaseg, Lenyddiaeth, Asgiliau Astudio a llawer mwy


Mae’r rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2011 ac fe’i haddysgir yn y canolfannau cymunedol canlynol:-


ABERTAWE:

Canolfan Adnoddau Action (Yr ARC) 45 Rhodfa Broughton, Portmead, SA5 5JS

Dydd Mercher 21ain Medi 9.30am-2.30pm

 

CASTELL-NEDD PORT TALBOT:

Canolfan Ddatblygu NSA, Rhodfa Bevin, Sandfields, SA12 6JW

Dydd Iau 29ain Medi 9.30am-2.30pm

 

SIR GAERFYRDDIN:

Canolfan Gymunedol Felinfoel, Heol Tanrhodyn. Felinfoel SA15 4LN

Dydd Mercher 28ain Medi 10.00am-2.30pm

 

SIR BENFRO:

Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Bush St, Doc Penfro, SA72 6LF

Dydd Iau 29ain Medi 1.30pm-6.00pm

 

Mae’r rhaglen AM DDIM i fyfyrwyr cymwys sy’n derbyn buddion drwy brawf moddion. 

Os hoffech gael gwybod rhagor am y cwrs, cysylltwch â Paul Dicks.

More details:


Contact details:

Name: Paul Dicks
Tel: 01792 295935
Email: p.dicks@abertawe.ac.uk


 
Nodi tudalennau a Rhannu