Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

14 Med 2011 - 14 Med 9999

Location: Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd

Cynhadledd Gwirfoddoli WCVA– Tueddiadau mewn Gwirfoddoli,

14 Medi, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd

 

Ydych chi’n gyfarwydd â’r tueddiadau diweddaraf mewn gwirfoddoli? Eleni mae Cynhadledd Gwirfoddoli WCVA yn canolbwyntio ar y pwnc hwnnw, gan edrych ar fynegiadau newydd o wirfoddoli sy’n dod i’r amlwg - megis y rheini sy’n cael eu hannog gan lywodraethau, neu eu hyrwyddo gan noddwyr corfforaethol ar y rhyngrwyd. Sut ydym yn cysylltu amrywiaeth ehangach o bobl â gwirfoddoli? Sut ydym yn bodloni gofynion cyfnewidiol gwirfoddolwyr?

 

Bydd prif siaradwyr o WCVA yn cynnig cipolwg ar dueddiadau presennol a’r dyfodol mewn gwirfoddoli yng Nghymru, tra y bydd cynrychiolwyr o Rock Corp, Orange a Barclays yn siarad am gynlluniau corfforaethol i annog pobl i wirfoddoli. Bydd sesiwn y prynhawn yn cynnwys gweithdai ar bynciau fel profiad gwaith yn y trydydd sector, proffesiynoli gwirfoddoli a gwella arferion.

 

Darllenwch yn rhaglen lawn nawr, ac archebwch eich lle. Mae hwn yn gyfle i bawb sy’n ymwneud â gwirfoddoli i fod yn hollol gyfarwydd â’r materion diweddaraf ac ystyried ffyrdd newydd o ddenu gwirfoddolwyr. Allwch chi fforddio ei golli?

More details: http://www.wcva.org.uk/images_client/publication/WCVA%20Volunteering%20Conference%20Leaflet.pdf


Contact details:

Name:
Tel:
Email:


 
Nodi tudalennau a Rhannu