Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Siartr Gwirfoddoli Ieuenctid

Mae aelodau GwirForce wedi dynodi nad oes gan Gymru, ar hyn o bryd, Bolisi ar gyfer Gwirfoddolwyr Ifainc. Sylweddolodd GwirForce bod angen i hyn gael ei ddatblygu. Achubodd GwirForce y blaen gan greu siartr ar gyfer Gwirfoddolwyr Ifainc. Mae’n cydnabod ac yn amddiffyn gwirfoddolwyr ifainc yng Nghymru.

Defnyddiodd GwirForce agwedd empathig, gan fod yr aelodau i gyd yn wirfoddolwyr ifainc yn eu cymunedau eu hunain. Fel grŵp, aethant ati i ddatblygu rhywfaint o egwyddorion strategol allweddol, fel a nodir yn y siartr.

Un amcan allweddol i’r grŵp yw i geisio cymeradwyaeth gwleidyddol ar gyfer y siartr. Rydym wedi ymgynghori â Nia Griffiths, AS Llanelli, sy’n ein cynorthwyo gyda’r polisi a’r gefnogaeth wleidyddol. Amcan allweddol GwirForce yw eu bod yn disgwyl y bydd cymdeithasau a mudiadau Gwirfoddol yn mabwysiadu’r polisi.

Yn ddiweddar, mynychodd aelodau GwirForce gynhadledd WCVA yng Ngogledd Cymru; rhoddodd hyn gyfle iddynt arddangos y Siartr Gwirfoddoli Ieuenctid trwy gyfres o weithdai. Cawsant groeso cynnes gan amrywiol fudiadau ac o ganlyniad i hyn maent wedi creu partneriaethau gwerth chweil, yng Ngogledd a De Cymru.

Nod arall GwirForce yw yr hoffent weld y Polisi’n cael ei fabwysiadu’n genedlaethol gan ein cyfeillion yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae GwirForce yn bwriadu cyflwyno’r siartr trwy gynadledda fideo gyda’u cyfoedion yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Byddem yn croesawu derbyn sylwadau ychwanegol / adborth gennych ynghylch y siartr.

Siartr Gwirfoddoli Ieuenctid

Caiff Gwirfoddolwyr Ifainc yng Nghymru gyfle i lunio perthnasau cadarnhaol; creu cydlyniant cymunedol a datblygu sgiliau newydd gaiff eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u trosglwyddo i bob agwedd o’u bywyd; heddiw ac yn y dyfodol.

Ein nod yw i gynnal, hyrwyddo ac annog Gwirfoddoli yng Nghymru mewn modd holistig. Gellir cyflawni hyn trwy ddarparu amgylchedd proffesiynol, cyfeillgar a diogel ar gyfer Gwirfoddolwyr yng Nghymru, sy’n rhoi eu hamser mewn modd cadarnhaol ac adeiladol er budd eraill.

Sut allwn ni gyflawni hyn?

Gall Gwirfoddolwyr Ifainc:

• Gefnogi eu cymunedau trwy brosiectau rheolaidd ac atgyfnerthu cydlyniant cymunedol trwy anelu i gynnwys grŵp amrywiol o bobl ifainc.
• Datblygu eu sgiliau a chynnig cyfraniadau cadarnhaol i fudiadau a busnesau; bydd gwirfoddolwyr ifainc yn eu helpu i dyfu’n barhaus ac i ddarparu gwell gwasanaeth.
• Dynodi cyfleoedd cefnogaeth, hyfforddiant ac ymchwil er mwyn sicrhau cynnydd.
• Hyrwyddo gwirfoddoli’n effeithlon trwy ‘wneud’ a gwneud cyfraniad gweladwy trwy godi arian ar gyfer elusennau; cynnal gweithdai a hyrwyddo digwyddiadau.

Gall mudiadau a chyflogwyr:

• Ddarparu hyfforddiant a helpu i ddatblygu sgiliau gwaith fel cyfathrebu, TG a gweithio gyda chydweithwyr o wahanol gefndiroedd, allai arwain at gyfleoedd eraill a / neu waith.
• Ymdrin â gwirfoddolwyr ifainc â thegwch a pharch ochr yn ochr ag aelodau cyflogedig o staff.
• Darparu cefnogaeth personol a chefnogaeth â ffocws perthnasol i waith trwy gyfarfodydd a sesiynau un-i-un; cymorth ariannol i deithio a chostau bwyd.
• Cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad gwirfoddolwyr ifainc er mwyn sicrhau ysgogiad a brwdfrydedd; a gyflawnir trwy wobrau gan ddarparwyr gwirfoddoli a chymwysterau bywyd trwy hyfforddiant yn y gwaith.
• Cydnabod buddiannau i fudiadau neu i’r gweithle o ganlyniad i gyfraniadau gwirfoddolwyr ifainc.

Mae gan wirfoddolwyr ifainc y gallu i greu a datblygu dyfodol economi Cymru gyda ffynhonnell dibynadwy o wybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad. Gall cymunedau ar draws Cymru sicrhau buddiannau cynaliadwy uniongyrchol a thymor hir o ganlyniad i gyfraniadau a gweithgarwch y bobl ifainc.
 


 
Nodi tudalennau a Rhannu