Mehefin - Wythnos y Gwirfoddolwyr
Eleni, mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn dathlu ei 26ain flwyddyn o gydnabod, gwobrwyo a recriwtio gwirfoddolwyr. wythnos nesaf (1-7 Mehefin) er mwyn cydnabod ymdrechion y miloedd o wirfoddolwyr yn y wlad. Ymysg y digwyddiadau a fydd yn nodi Wythnos Gwirfoddolwyr fydd te dathlu mewn gwahanol fannau, ‘cyswllt cyflym i wirfoddoli’ (volunteering speed dating) a chyflwyno gwobrau cenedlaethol. Nod y dathliadau blynyddol yw diolch i’r bobl sy’n rhoi eu hamser i helpu eraill - ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan.
Os ydych chi’n meddwl am wirfoddoli, Wythnos y Gwirfoddolwyr yw’r adeg berffaith i gael gwybod mwy. Isod, nodir rhai o’r digwyddiadau sy’n digwydd ledled Cymru yn ystod wythnos y gwirfoddolwyr eleni. I weld mwy o ddigwyddiadau, gallwch fynd i’n tudalen digwyddiadau neu gysylltu â’ch ymgynghorydd gwirfoddoli ieuenctid lleol i gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi
Bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynnal ei seremoni flynyddol Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn ddydd Iau 10 Mehefin. Eleni cefnogir y gwobrau gan CCLA Management Ltd.
Cyflwynir y gwobrau yng Nghastell Caerdydd i gyfanswm o 16 o enillwyr yn y pum categori enwebu – unigolion, pobl ifanc (dan 25 oed), gwirfoddolwyr ‘gwyrdd’, ymddiriedolwyr a grwpiau.
Ac yng ngweddill Cymru, mae gan Ganolfan Gwirfoddoli Gwynedd ddyddiadur llawn o weithgareddau. Bydd stondin wybodaeth deithiol yn ymweld â gwahanol leoliadau, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ar draws y sir.
Bydd y stondin wrth y Cloc ym Mangor rhwng10.30am a 2pm ddydd Mercher 2 Mehefin; swyddfeydd newydd Mantell Gwynedd yng Nghaernarfon rhwng 10.30am a 2.30pm ddydd Gwener 5 Mehefin; Llyfrgell Blaenau Ffestiniog rhwng 10am a 1pm ddydd Llun 7 Mehefin; Marchnad Pwllheli rhwng 9am a 12.30pm ddydd Mercher 9 Mehefin; a siop y Co-op Tywyn rhwng 10am a 1pm ddydd Iau 10 Mehefin.
Mae’r Ganolfan Gwirfoddoli hefyd yn cynnal te dathlu ym Mhortmeirion ddydd Llun, 7 Mehefin. Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Hercules am 3pm.
Gydol yr wythnos, bydd detholiad o ffotograffau sy’n portreadu gwirfoddoli yng Ngwynedd, ac a gafodd eu cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth a drefnwyd gan y Ganolfan Gwirfoddoli, yn cael eu harddangos yn swyddfeydd Mantell Gwynedd.
Yn Ne Cymru, yn y cyfamser, mae Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol Gwent (GAVO) wedi trefnu diwrnod gwirfoddoli yn safle Tarragan ym Margoed ddydd Gwener 4 Mehefin, lle bydd staff GAVO, gwirfoddolwyr a myfyrwyr o Goleg Ystrad Mynach yn plannu blodau a llwyni.
Ffordd anghyffredin o gyflwyno pobl i wirfoddoli fydd sesiwn ‘cyswllt cyflym i wirfoddoli’ (volunteering speed dating) gan GAVO a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau 3 Mehefin yn Ysgol Gyfun Glynebwy rhwng 11am a 3.30pm. Cynhelir sesiwn galw heibio i bobl nad ydynt yn gallu mynychu yn ystod y dydd rhwng 4pm a 6pm.
Un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o ddweud diolch yw cyflwyno tystysgrif i wirfoddolwyr i gydnabod eu cyfraniad a’u hymroddiad i wirfoddoli. Mae Tystysgrifau Wythnos Gwirfoddolwyr dwyieithog ar gael gan WCVA yn rhad ac am ddim. I archebu’r rhain, cysylltwch â Nigel Davies ar 029 2043 6594 neu ndavies@wcva.org.uk.
Derbynnir archebion yn awr ar gyfer cynhadledd wirfoddoli WCVA, Rhoi Sylw i Wirfoddolwyr – Volunteers in Focus a fydd yn cael ei chynnal yn Galeri, Caernarfon ar 15 Medi.
Nod y digwyddiad fydd codi proffil gwirfoddolwyr yn eu mudiadau, hyrwyddo arferion da ym maes rheoli gwirfoddolwyr a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n berthnasol i wirfoddoli.
Bydd Dafydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru, yn traddodi’r anerchiad agoriadol, tra bydd Richard Andrews, Rheolwr Gyfarwyddwr Corporate Instinct, sy’n darparu gwasanaethau dysgu a datblygu sefydliadol, yn trafod Bancio Amser. Yn y gweithdai bydd testunau ymarferol yn cael eu trafod yn fanylach a bydd panel o bobl ifanc yn cael eu gwahodd i werthuso nifer o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n cael eu darparu gan y rheini a fydd yn mynychu'r gynhadledd.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: