Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

STOPIWCH Beth Rydych chi'n ei Wneud a GWRANDO - Mae Angen Clywed Pobl Ifanc.

Mae ar bobl ifanc eisiau cael eu clywed, ac rydym ni yn GwirVol yn deall hyn, ond weithiau efallai fod pobl ifanc yn teimlo nad oes neb yn gwrando ar eu safbwyntiau. Mae partner GwirVol, y Ddraig Ffynci, yn fudiad sy'n ymwneud â safbwyntiau pobl ifanc. Maen nhw'n annog pobl ifanc i ddweud eu dweud am yr hyn y mae angen ei wella yn eu cymuned ac mae hyn wedyn yn arwain at weithredu. Mae GwirVol yn edmygu'r gwirfoddolwyr ifanc sy'n ddigon dewr i fynegi eu barn. Oes gennych chi farn am sut mae pethau'n cael eu rhedeg yn eich ysgol neu'ch prifysgol? Neu ydych chi'n feirniadol o'r ffordd caiff y GIG ei redeg? Mae GwirVol yn eich atgoffa - mae rhydd i bawb ei farn a phob barn ei llafar.

Peidiwch â phoeni os ydy eich safbwynt yn ecsentrig, oherwydd roedd pob safbwynt a dderbynnir nawr yn ecsentrig unwaith.
~ Bertrand Russell

Mae GwirVol yn cytuno â syniadau'r Ddraig Ffynci bod angen i bobl wrando ar safbwyntiau pobl ifanc. Er mwyn gwella bywydau pobl ifanc, pwy well i ymgynghori â nhw na phobl ifanc eu hunain? Efallai fod plant heddiw yn teimlo nad yw eu safbwyntiau'n cyfrif, ond mae hynny'n anghywir. Mae GwirVol yn cydnabod mai pobl ifanc yw'r dyfodol ac felly mae angen i ni wrando arnyn nhw er mwyn cael dyfodol gwell. Mae GwirVol yn teimlo mor gryf am y syniad hwn bod gennym hyd yn oed grŵp o wirfoddolwyr ifanc o'r enw GwirForce, sy'n arwain menter i bobl ifanc. Maen nhw'n ceisio hybu gwirfoddoli ymysg pobl ifanc. Oherwydd ein bod yn ceisio hyrwyddo gwirfoddoli ymysg pobl ifanc, mae ein panel o wirfoddolwyr rhwng 16 a 25 oed, felly mae GwirVol hefyd yn talu sylw i safbwyntiau pobl ifanc.

Mae ar GwirVol eisiau i bobl wybod (yn enwedig pobl ifanc) bod safbwyntiau pobl ifanc yn bwysig dros ben i ni, ac felly mae bod yn bartner i'r Ddraig Ffynci yn hyrwyddo hyn. Nod y mudiad yw mynegi bod safbwyntiau pobl ifanc yn bwysig, ac maent yn annog pobl ifanc i ddweud eu dweud am y materion sy'n effeithio arnynt. Y rheswm tu ôl i'w mudiad yw dweud wrth bobl ifanc y bydd siarad am y materion sy'n effeithio arnynt yn gwella eu bywydau nhw a bywydau pobl ifanc eraill hefyd.

Gweithredwch fel petai'r hyn rydych chi'n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth. Mae'n wir.
~William James
 

Mae gwefan y Ddraig Ffynci yn llwyfan i bobl ifanc gael dweud eu dweud. Prif dasgau'r Ddraig Ffynci yw mynnu bod rhywun yn gwrando ar farn plant a phobl ifanc, rhwng 0 a 25 oed, yn enwedig Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y rheswm am hyn yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu newid rhai materion sy'n effeithio ar bobl ifanc. Mae'r Ddraig Ffynci yn darparu profiad rhyngweithiol gwych ar eu gwefan. Mae'r elusen yn cynnig fforymau, yn dangos adroddiadau a chylchlythyrau, ac mae hyd yn oed cyfle i gymryd rhan yn y Sianel Gymunedol.

Mae pwyllgor rheoli'r Ddraig Ffynci, (a elwir yn ymddiriedolwyr) yn cynnwys pedwar gweithiwr proffesiynol, pedwar person dros 18 oed, a phedwar person dan 18 oed. Er bod yr ymddiriedolwyr hyn yn gyfrifol am bopeth mae'r Ddraig Ffynci yn ei wneud, maen nhw'n cael eu harwain gan safbwyntiau pobl ifanc eraill hefyd. Mae'r wyth o bobl, sydd dan 18 oed ac sydd dros 18 oed, yn cael eu hethol gan Aelodau'r Prif Gyngor. Mae'r Prif Gyngor yn cynnwys 100 o bobl ifanc. Mae hyn yn dangos bod pobl ifanc wedi rhoi eu safbwyntiau, a bod camau'n cael eu cymryd i gyfleu eu barn.

Gall gwirfoddoli i'r Ddraig Ffynci hyd yn oed arwain at gyfleoedd i deithio, fel y cafodd Isabella Hughes o Geredigion wybod,

'Roedd cwrdd â phobl o gefndiroedd gwahanol fel petaswn i'n cael fy rhoi mewn byd a oedd yn ddieithr i mi ond mae gwirfoddoli wedi fy ngwneud yn well person oherwydd rwyf wedi gwneud ffrindiau da iawn.

Eleni rwyf wedi bod ar lawer o'r pwyllgorau cynllunio, a oedd yn ddifyr iawn. Rhaid i mi gynllunio'r digwyddiadau preswyl ar gyfer y Prif Gyngor, sy'n golygu creu'r amserlenni i wneud yn siŵr bod digon o amser ar gyfer bob dim. Rwy'n gyfrifol am drefnu lle cynhelir y digwyddiadau, pryd byddwn yn gadael a phryd byddwn yn cyrraedd a beth fydd yn digwydd yn ystod y cyfnodau hynny.

Dwi wedi bod yn gwneud y gwaith UNCRC ac yn mynd i'r digwyddiadau preswyl. Mae gwirfoddoli gyda'r Ddraig Ffynci'n gallu arwain at gynifer o gyfleoedd. Pan gefais fy ngwneud yn Llysgennad Ifanc y DU, cefais y cyfle i deithio i Belfast a chwrdd â phobl eraill o bob rhan o'r DU!'

Fel y dywedwyd yn gynharach, mae'r Ddraig Ffynci yn darparu fforwm i'w defnyddwyr ar eu gwefan. Mae'r fforwm yn caniatáu i bobl ifanc fynegi eu safbwyntiau mewn ffordd gynnil drwy drafod eu safbwyntiau gyda phobl ifanc eraill. Gofynnir i bobl ifanc am eu safbwyntiau ar ystod o bynciau, megis materion sy'n ymwneud â chymuned, addysg ac iechyd. Mae'r fforwm yn rhoi synnwyr o annibyniaeth i blant, mae'n caniatáu i ddefnyddwyr y wefan dorri'n rhydd o'r syniad eu bod yn bobl ifanc, ac yn lle hynny maent yn caniatáu iddynt weld eu bod ar y ffordd i fod yn oedolion ifanc.

Er bod y Ddraig Ffynci o ddifrif am wrando ar safbwyntiau pobl ifanc, mae'r mudiad hefyd yn awyddus i ddefnyddwyr gael hwyl ar eu gwefan. Mae'r wefan yn rhoi dolenni gwefan i gymryd rhan mewn gemau, jôcs, a hyd yn oed adran cyfryngau lle gallwch recordio eich hun yn siarad am y pethau mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw ac wedyn llwytho'r fideo i fyny i'r wefan. Mae hyn yn cefnogi'r ffaith bod gan y Ddraig Ffynci ddiddordeb mewn beth sydd gan bobl ifanc i'w ddweud. Ynghyd â'r fforwm sy'n caniatáu i bobl ifanc ddweud eu dweud, a dolenni i safleoedd difyr eraill, mae gwefan y Ddraig Ffynci yn lle i gael hwyl ond hefyd yn lle i wneud gwahaniaeth.
 

Rhaid i chi ymgorffori'r newid rydych yn dymuno ei weld yn y byd.
~Mahatma Gandhi

All GwirVol ddim gorbwysleisio faint rydym yn cefnogi'r Ddraig Ffynci a'u dymuniad i wrando ar safbwyntiau pobl ifanc. Gallai un safbwynt bach wneud byd o wahaniaeth. Os oes gennych chi rywbeth i'r ddweud, barn i'w lleisio neu safbwynt y mae gwir angen ei chlywed, cliciwch y ddolen isod a bod yn falch o'r ffaith eich bod yn dweud eich dweud ac yn ceisio newid pethau.

www.funkydragon.org

 


 
Nodi tudalennau a Rhannu