Mawrth - Dwi'n gwirfoddoli ydych chi?
Haia, Steve ydw i a dwi'n aelod o GwirForce. Panel o bobl ifanc yw GwirForce ac rydyn ni'n arwain gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Dwi hefyd yn gwirfoddoli yn fy nghlwb ieuenctid lleol a fy fforwm ieuenctid lleol. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig i mi ac i bobl ifanc eraill wirfoddoli mewn ffyrdd fel hyn oherwydd mae'n rhoi syniad o berthyn i chi. Yn GwirForce a fy fforwm ieuenctid, rydyn ni'n gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar bobl ifanc fel ni. Mae bod yn llais y rheini sy'n rhy swil i siarad allan yn deimlad anhygoel. Dwi'n ei fwynhau oherwydd rydych chi'n eu cynrychioli nhw ac yn gwneud gwahaniaeth. Dwi'n mynd i ddigwyddiadau preswyl, cyfarfodydd a sesiynau cynllunio gan gofio hyn i gyd. – Steve Sellers, Aelod o GwirForce.
Yn fy swyddogaeth fel arweinydd sgowtiaid, dwi wedi cael cynifer o gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau na fyddwn wedi'u gwneud fel arall, megis dringo creigiau a mynd i Barc Gilwell am ddiwrnod agored, a oedd yn ysbrydoliaeth wych i mi fel gwirfoddolwr newydd. Mae gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan yn arbennig. Fel mudiad gall gynnig cynifer o gyfleoedd mewn nifer o ardaloedd gwahanol, ac rydych chi'n cael llawer yn gyfnewid am hynny, ni allaf ddychmygu fy hun yn peidio â bod yn aelod gan byddaf bob amser yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl am bopeth rwyf wedi'i ennill. – Neil Chadwick Ambiwlans Sant Ioan a'r Gymdeithas Sgowtiaid
Mae bod yn wirfoddolwr yn eithriadol o bwysig i mi. Mae’n golygu fy mod yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau yr wyf yn byw ynddynt. Ond hefyd, mae gwirfoddoli’n rhoi i mi’r sgiliau a’r profiadau sydd wedi fy helpu drwy’r ysgol, prifysgol a fy mywyd cymdeithasol. – Fiona Laycock, Ambiwlans Sant Ioan
Rwy'n gwirfoddoli am amryw o resymau. Cefais amser gwerth chweil pan oeddwn yn un o’r Brownis a’r Geidiaid, a chael profiad rhagorol. Cefais gyfle i wneud cynifer o bethau gwahanol, i gwrdd â chynifer o wahanol bobl ac i wneud llawer o ffrindiau. Rwyf eisiau i eraill gael yr un cyfleoedd a gefais i ac rwyf eisiau iddynt fwynhau, yn yr un modd ag yr wyf finnau'n dal i fwynhau. Does dim byd gwell na gweld y merched yn mwynhau'r gweithgareddau; yn gwenu, yn chwerthin, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn magu mwy o hunanhyder. – Helen Williams, Geidiaid
Efallai eich bod chi'n meddwl 'Pam fyddwn i'n rhoi o'm hamser a ddim yn cael dim byd yn ôl am hynny?' ond nid yw gwirfoddoli'n golygu gwneud rhywbeth am ddim byd. Gallwch gael cynifer o bethau o'r profiad. Gallwch;
- Wneud llwyth o ffrindiau newydd
- Dysgu sgiliau newydd
- Helpu i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw, i chi ac i bobl eraill
- Cael gwybod am yrfaoedd yn y dyfodol
- Ennill cymwysterau
- Mwynhau!
Mae nifer o fudiadau gwirfoddol yn gallu talu am fân dreuliau, sy'n golygu, gallant ad-dalu eich costau teithio felly ni fydd yn costio i chi eu helpu. Maent yn cynnig llawer o hyfforddiant a chefnogaeth i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ac yn aml byddant yn cynnig geirdaon os ydych chi'n gwneud cais am swyddi neu gyrsiau.
Mae GwirForce yn grŵp o bobl ifanc o'r un anian sy'n gwirfoddoli yn eu cymunedau ac sydd wedi dod ynghyd i roi gwybod i bobl ifanc eraill am brofiad gwych gwirfoddoli. Drwy ymuno â GwirForce fe gewch gyfle i ddweud eich dweud, gwneud penderfyniadau pwysig a bod yn gysylltiedig â sawl ymgynghoriad ar gyfer mudiadau gwahanol. Cewch gyfle i gyfarfod â ffrindiau newydd, cael profiad gwerthfawr a chael gafael a hyfforddiant defnyddiol.Os hoffech chi ymuno â nhw, gallwch wybod sut drwy glicio yma.
I gael gwybod mwy am y mathau o gyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli yn eich ardal, cysylltwch â'ch cynghorydd gwirfoddoli ymysg pobl ifanc lleol neu ewch i www.volunteering-wales.net.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: