Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

GwirVol yn Gwireddu Dymuniadau!

Mae grantiau GwirVol wedi cyrraedd o’r diwedd ac wedi hir ddisgwyl gall y ceisiadau ddechrau. Ydych chi erioed wedi meddwl am wneud cais am grant ond eich bod ddim yn siŵr os oeddech chi’n bodloni’r gofynion? Mae’r grantiau sydd gan GwirVol i'w cynnig mor amrywiol a gellir eu defnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau gwirfoddoli. Mae gan GwirVol grantiau i gefnogi gweithgareddau chwaraeon ar gyfer y rheiny sydd am greu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli ym maes chwaraeon yng Nghymru. Fel arall, os ydych yn credu mai chi yw’r Donnatella Versace nesaf, yna efallai y byddwn yn gallu noddi eich sioeau ffasiwn yn y dyfodol. Fe allech hyd yn oed ddilyn ôl troed Marco Polo a gweld y byd drwy wirfoddoli gyda chymorth un o'n grantiau. Cyn belled ag y bo’ch mudiad yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli arloesol ac yn annog gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc, yna efallai mai’r unig beth sydd rhyngoch chi a chymorth ariannol yw ffurflen gais.

Beth sydd ar gael?

Ar hyn o bryd, mae gan GwirVol bedwar grant i’w gynnig i fudiadau sy'n chwilio am gyllid, sef grantiau Gwirfoddoli Rhyngwladol GwirVol, Grantiau ‘Cyfleoedd’ a ‘Hyrwyddo’ Gwirfoddoli Ymhlith Pobl Ifanc GwirVol a Grantiau Gwirfoddoli StreetGames GwirVol. Mae pob grant yn cynnig lefel wahanol o gymorth ariannol. Er mwyn i chi ddeall yn iawn beth sydd ar gael drwy’r grantiau hyn, darllenwch yr hyn sy'n dilyn i weld pa un sydd fwyaf addas ar gyfer eich mudiad chi.

Grant Rhyngwladol GwirVol

Gall mudiadau mentrus sydd â’r nod o ddarparu cyfleoedd i wirfoddoli dramor wneud cais i Gynllun Grant Rhyngwladol GwirVol. Gall y cynllun hwn gynnig hyd at £30,000 i brosiectau sy’n ceisio ehangu eu cyfleoedd gwirfoddoli rhyngwladol. Bwriad y cynllun yw cefnogi prosiectau sydd â diddordeb arbennig mewn recriwtio gwirfoddolwyr ifanc sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru. Bydd GwirVol yn cynnig cymorth o 80% tuag at gostau’r prosiect er mwyn helpu i ddatblygu mudiadau penodol. Er mwyn cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli i bobl ifanc, ac er mwyn dod â budd i’ch cymuned, edrychwch ar wefan GwirVol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

Grantiau 'Cyfleoedd' a 'Hyrwyddo' Gwirfoddoli Ymhlith Pobl Ifanc GwirVol

Mae GwirVol yn daer dros annog pobl ifanc i wirfoddoli. Mae Grant Gwirfoddoli Ymhlith Pobl Ifanc GwirVol ar gael i fudiadau sy'n ceisio cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli a’r amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael. Mae dau fath o grant ar gael, sef ‘Cyfleoedd’ a ‘Hyrwyddo’. Uchafswm y cyllid sydd ar gael drwy'r grant Cyfleoedd yw £10,000. Caniateir cyllid i fudiadau er mwyn creu cyfleoedd gwirfoddoli arloesol a ffres i bobl ifanc.
 

Mae’r grant Hyrwyddo ar gael i fudiadau i’w helpu i hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc mewn sawl ffordd. Gall y gronfa o hyd at £5,000 helpu i hyrwyddo gwirfoddoli mewn digwyddiadau, ar wefannau, neu drwy ymgyrchoedd. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch chi ysgogi newid sylweddol yn nifer y bobl sy’n gwirfoddoli, dilynwch y ddolen www.gwirvol.org

Grant StreetGames GwirVol

Mae’r ail rownd o geisiadau ar gyfer Grant StreetGames GwirVol wedi cychwyn. Nod y cynllun hwn yw datblygu cyfleoedd gwirfoddoli ym maes Chwaraeon ar Garreg y Drws mewn ardaloedd difreintiedig. Gyda chyllid o hyd at £2,000 ar gael, gallai sawl mudiad mewn cymunedau difreintiedig gael budd gwirioneddol o’r grant hwn. Felly, pa un ai a ydych yn fudiad sy’n llawn cefnogwyr pêl-droed brwd, neu’n grŵp sydd wedi gwirioni ar hoci ac sy’n ceisio ehangu’r cyfleoedd sydd gennych ar gyfer gwirfoddoli a datblygu eich grŵp, gallech fod yn gymwys i wneud cais am Grant StreetGames GwirVol.

Galluogwyd drwy Grantiau GwirVol!

Un mudiad sydd wedi cael budd o Grant Rhyngwladol GwirVol yw Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy. Mudiad i bobl ifanc sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc yw'r Fforwm sydd â'r nod o greu a sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb. Roeddynt wedi meddwl am brosiect a fyddai’n rhoi'r cyfle i wirfoddolwyr yng Nghymru weithio ochr yn ochr â phobl ifanc ym Mongolia sydd â diddordeb mewn newid yn yr hinsawdd a datblygu cynaliadwy. Nod y prosiect yw creu chwaer fforwm ar gyfer pobl ifanc ym Mongolia o'r enw 'Mongolia Youth on Climate Change'. Bydd cyllid gan GwirVol yn golygu y gall y mudiad hyfforddi eu gwirfoddolwyr a'u harfogi â sgiliau a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu'n hyderus â phobl ifanc ym Mongolia a rhannu dulliau ymgyrchu ac ymgysylltu gyda nhw. Bydd y cyllid hefyd yn golygu y gall gwirfoddolwyr ymweld â Mongolia er mwyn rhoi'r sgiliau hyn ar waith.

Mudiad arall sydd wedi derbyn grant GwirVol yw Ymddiriedolaeth Datblygu Ystalyfera. Nod yr elusen yw hyrwyddo adfywiad cymuned Ystalyfera. Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth gais am grant StreetGames GwirVol i gefnogi eu prosiect sydd â’r nod o hyrwyddo iechyd a lles yn y gymuned. Roedd yr elusen arloesol am annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon anghyffredin megis cystadlaethau pysgota a 'thaflu welis'! Roedd y mudiad am gynyddu’r cyfleoedd gwirfoddoli oedd ar gael yn y gymuned i bobl ifanc er mwyn iddynt ddysgu sgiliau a fyddai’n cryfhau eu siawns am gyflogaeth yn y farchnad swyddi. Mae’r prosiect hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i wirfoddolwyr ac i’r gymuned am faterion iechyd. Roedd y prosiect hwn yn ‘ticio pob blwch’ ar gyfer grant StreetGames GwirVol!

Dyfarnwyd grant 'Cyfleoedd' i Chwaraeon Cymunedol Bae Colwyn i ddarparu ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli newydd, sef un o brif ofynion Grantiau Ieuenctid GwirVol. Cynigiodd Bae Colwyn raglen o’r enw ‘iVolunteer’ sydd â’r nod o ffrwyno pŵer pêl- droed i symbylu a lleoliad ysbrydoledig stadiwm pêl-droed i ennyn ymrwymiad gwirfoddolwyr ifanc a'u cyflwyno i reoli 'cynlluniau pêl-droed yn y gymuned'. Nododd y mudiad y dylai'r cynllun gael ei arwain gan bobl ifanc ac y dylai fod ym mherchnogaeth y gymuned. Mae GwirVol yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi’r farn hon ac yn falch o gefnogi'r prosiect.

Sut i Wneud Cais

Y dyddiad cau ar gyfer pob cais fydd 24ain Tachwedd 2010. Cafodd GwirVol nifer helaeth iawn o geisiadau yn y rownd ddiwethaf ac edrychwn ymlaen at rownd lwyddiannus arall.

I gael manylion llawnach, megis rhifau cyswllt a ffurflenni cais, edrychwch ar ein tudalen Grantiau drwy glicio ar y ddolen http://www.gwirvol.org/cy/grantiau/

Gall y grantiau sydd ar gael wneud gwahaniaeth sy’n cyfoethogi cymunedau. Beth sydd ar eich mudiad chi ei angen a’i eisiau? Mae GwirVol yn aros i wireddu eich dymuniad!


 


 
Nodi tudalennau a Rhannu