GwirVol a StreetGames yn lansio grantiau chwaraeon
01 Meh 2010 - 01 Ion 9999
Location: Wales-Wide
Mae cynllun yng Nghymru sy’n ceisio cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli wedi ymuno ag elusen sy’n datblygu chwaraeon yn y DU er mwyn helpu i ddarparu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli ym myd chwaraeon mewn cymunedau difreintiedig.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) fydd yn rheoli cynllun grantiau newydd GwirVol StreetGames, ac fe'i cefnogir gan Chwaraeon Cymru a Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Cafodd y cynllun ei lansio gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn y Senedd ddydd Mercher 26 Mai, yn ystod Gwobrau Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn 2010 Menter Gydweithredol StreetGames.
Bwriad y grantiau, sydd werth hyd at £2,000 yr un, yw helpu i ddatblygu rhaglenni chwaraeon strwythuredig mewn cymunedau difreintiedig drwy gynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed fel gwirfoddolwyr.
Yn ogystal â chyllid, bydd y prosiectau hefyd yn cynnig mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a mentora, ynghyd â chymwysterau, gan gynnwys Gwobrau Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol a gwobrau cydnabod megis Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
Bydd y grantiau’n helpu mudiadau i gynnig cyfleoedd sy’n gosod her i bobl ifanc, yn ateb eu dyheadau ac yn ychwanegu gwerth at eu cymunedau. Bydd chwaraeon o bob math yn cael cefnogaeth, o bêl-droed i ddawnsio!
‘Mae hon yn bartneriaeth newydd gyffrous sy’n dod â chwaraeon a gwirfoddoli ynghyd,’ meddai Leah Doherty, Cydlynydd GwirVol. ‘Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi prosiectau drwy gyfrwng cyllid, mentora a chymwysterau a gaiff eu dwyn ynghyd gan ein partneriaid, ac yn ysu am gael gweld beth y bydd cymunedau lleol yn ei ddatblygu.’
Yn ôl Jane Ashworth, Prif Weithredwr StreetGames: ‘Mae gennym amryw o brosiectau chwaraeon cymunedol cyffrous ar waith yng Nghymru. Hyd yma, yn sgil y prosiectau hyn mae bron i 100 o wirfoddolwyr ifanc wedi rhoi dros 2,000 o oriau o’u hamser i helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan ennill sgiliau a chymwysterau newydd eu hunain.
‘Bydd y bartneriaeth newydd hon yn helpu i wneud yn siŵr y gallwn barhau i gynnig cyfleoedd gwych o'r fath ac i ymgysylltu â phobl ifanc drwy gyfrwng chwaraeon.’
Pryd y gallaf wneud cais?
Bydd y grantiau ar gael o 30 Mehefin 2010 ymlaen.
Faint sydd ar gael?
Mae hyd at £2,000 o gyllid ar gael i bob prosiect. Rhoddir y grantiau i brosiectau sy’n cynnwys pobl ifanc o gymunedau difreintiedig.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut mae gwneud cais am grantiau GwirVol StreetGames, ewch i www.GwirVol.org neu cysylltwch â Caro Wild yn StreetGames caro.wild@streetgames.org.
More details:
Contact details:
Name: Caro Wild
Tel:
Email: caro.wild@streetgames.org




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: