Eisteddfod
GwirVol yn Gwenu yn y Glaw yn yr Eisteddfod
Storom Awst gawson ni yn Eisteddfod 2010, o ran nifer y rhai a oedd yn bresennol ac yn llythrennol - yn anffodus, roedd tywydd yr haf yng Nghymru'n fwy diflas na disglair eleni ond diolch byth, wnaeth hynny ddim tarfu ar ysbryd y bobl a ddaeth i'r ŵyl!
Wrth imi gyrraedd yr Eisteddfod, roedd heidiau o bobl ym mhobman. Roedd pobl yn cyrraedd ar fysiau, ar fysiau moethus, mewn ceir, ar droed - gan brofi bod yr Eisteddfod yr un mor llwyddiannus ag erioed. Ar ôl rhuthro drwy'r tyrfaoedd wrth y dderbynfa, o'r diwedd, roeddwn wedi cyrraedd y Maes, yn barod i goleddu diwylliant Cymru.
Roedd GwirVol ym Mhafiliwn Sbardun (dan do yn ffodus!), a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru'n cynnal y lle. Yn y babell, roedd nifer o sefydliadau sy'n cynnig cyfleoedd i bobl wirfoddoli yng Nghymru. Roedd stondin GwirVol yn llawn taflenni, llyfrynnau, a mathau eraill o ddeunyddiau hyrwyddo yn hysbysebu GwirVol. Roedd gennym nwyddau am ddim ar ein stondin hefyd ac fe'u defnyddiwyd yn gyfrwys i gymell darpar wirfoddolwyr. Roedd y rhain yn cynnwys llyfrau nodiadau, pinnau a chlociau digidol hyd yn oed a brand GwirVol arnynt. Gyda'r holl wybodaeth a'r rhoddion hyn ar gael am ddim, roedd ein stondin pinc a glas yn ddeniadol iawn.
Wrth grwydro o gwmpas y Maes, sylweddolais gynifer o stondinau amrywiol oedd yno. O gelf a chrefft wedi'i wneud o ddeunydd wedi'i ailgylchu i stondinau a oedd yn rhoi coed brodorol i bobl am ddim. O oedd, roedd yn wirioneddol amrywiol, a chan fod yno 186 o Stondinwyr, roedd rhywbeth yn sicr o fod at ddant pawb yn yr Eisteddfod. Y stondinau a greodd y cyffro mwyaf (ac eithrio stondin GwirVol wrth gwrs), oedd Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser Cymru, Coed Cadw a manwerthwr o'r enw Cwmni Calon. Roedd gan Sefydliad Prydeinig y Galon lawer o wirfoddolwyr cyfeillgar a gwybodus oedd yn barod i gynnig ffeithiau ynglŷn â sut oedd byw bywyd iach. Roedd yn hawdd gweld hefyd bod Coed Cadw yn llwyddiant gan fod pawb oedd yn ymweld â nhw fwy neu lai'n dod oddi yno â choeden yn ei fag! Roedd y gwerthwr ffabrigau, Cwmni Calon, yn mynnu sylw pawb oedd yn mynd heibio i'r stondin. Rhai o'r pethau difyr oedd ganddynt i'w gynnig ar eu stondin oedd ffedogau hylif golchi llestri, clustogau â sloganau Cymraeg wedi'u brodio arnyn nhw, a stopyn drws wedi'i lenwi â blodau lafant sydd hefyd yn persawru’r ystafell.
Pan ddaeth hi'n amser cinio, roedd hi'n bryd cael blas ar fwydydd traddodiadol Cymru. Ym mhob pabell fwyd roedd byrbrydau, diodydd, a danteithion o Gymru ar gael. Gallai pobl wledda ar Gawl, flasu Bara Brith a hyd yn oed lyncu ysgytlaeth organig Cymru, Daioni. Roedd yr arddangosfa o gacennau mêl, pwdinau sbwng a danteithion llawn jam yn ddigon i dynnu dŵr o 'nannedd ac roedd blasu ambell bic ar y maen yn ddigon imi roi'r gorau i'r deiet rôn i wedi bod arno ers tri mis!
Wedi cael chwistrelliad o siwgr, roedden ni'n llawn ynni ac yn barod i roi cyhoeddusrwydd i enw GwirVol. Holiadur syml oedd un o'n taflenni, a hwnnw'n gofyn i bobl ifanc am eu barn ynglŷn â gwirfoddoli. Roedd adran hefyd lle'r oedd cyw wirfoddolwyr yn gallu cynnig eu gwasanaeth. Aethon ni at bob person ifanc 16-25 roedden ni'n ei weld a gofyn a fydden nhw'n fodlon llenwi'n holiadur. Fe gawson ni ymateb anhygoel, gan brofi bod gan bobl ifanc yng Nghymru heddiw ddiddordeb a'u bod yn awyddus i roi help llaw yn eu cymuned a rhoi rhywbeth yn ôl. Mae dysgu hyn wedi fy ngwneud yn fwy balch nag erioed fy mod yn dod o Gymru. Ond roedd GwirVol am ddangos ein gwerthfawrogiad ac felly, dywedwyd wrth bawb a lenwodd yr holiadur y bydden ni'n tynnu eu henw o het ac mai'r wobr fyddai talebau i'w gwario ar y stryd fawr. Tydyn ni'n glên? Enillydd yr holiadur oedd Siôn, 19 o Caerdydd sydd wedi gwirfoddoli yn y gorffennol ym Maes B ac yng Ngŵyl Under-construction.
Yn anffodus, ar ôl llenwi blwch gwirfoddoli GwirVol, roedd hi'n bryd inni ymadael â'r Eisteddfod. Wrth wirioni ar olygfeydd hardd Cymru, copaon gwyrdd y mynyddoedd enfawr a phantiau dwfn y cymoedd, dechreuais feddwl am brofiadau'r diwrnod. Clustogau wedi'u brodio â sloganau Cymraeg, cyfarfod â llawer o Gymry, sglaffio danteithion Cymru, a daeth hi'n amlwg imi faint o fusnesau yng Nghymru sy'n cysylltu eu masnachu â phethau Cymreig, a hynny am eu bod caru ac yn edmygu eu gwlad. Mae hynny wedi gwneud imi sylweddoli faint o falchder a diwylliant sydd yn y wlad hon mewn gwirionedd.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: