Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Y mis yma yn GwirVol, rydyn ni’n sôn am ein cariad at yr iaith Gymraeg, (ac am ein cariad at wirfoddoli hefyd, wrth gwrs.) Ydych chi’r un mor danbaid? Ydych chi erioed wedi meddwl ei bod yn bosib gwirfoddoli gan gadw’r iaith frodorol yn fyw ar yr un pryd? Wel, mae hyn yn bosib! Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agosáu ac mae’r digwyddiad hwn yn cyfuno’r ddau beth pwysicaf yn y byd i GwirVol - gwirfoddoli a’r iaith Gymraeg. Hir oes i’r Gymraeg!

Dan yr enw swyddogol ‘Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd’, mae’r digwyddiad yn ŵyl a gynhelir dros wythnos rhwng 31ain Gorffennaf a 7fed Awst. Nod sylfaenol y digwyddiad yw hyrwyddo ac annog diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae hefyd yn ceisio hyrwyddo gwirfoddoli, oherwydd heb y 300 o stiwardiaid y mae eu hangen ar gyfer y digwyddiad, ni fyddai modd cynnal yr ŵyl. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2010 yn y Gweithfeydd, Glyn Ebwy, a disgwylir torf o 150,000 ac amcangyfrif gwerth £6.5 miliwn i’r economi, mae’r ŵyl yn sicr o fod yn ddigwyddiad anferth. Mae’r ŵyl yn denu rhai o enwogion mwyaf Cymru i’r ardal, megis Katherine Jenkins, Rhydian Roberts ac Aled Jones i enwi dim ond rhai - mae’r ŵyl yn fawr ac yn llawn bwrlwm. Mae’r digwyddiad yn ŵyl a gaiff gydnabyddiaeth ryngwladol gan fod tramorwyr yn tyrru iddi hefyd, felly bydd modd gweld yr ŵyl ar y teledu nid yn unig yng Nghymru, ond yn Lloegr a ledled y byd hefyd. Fel y nodwyd yn flaenorol, nod yr ŵyl yw hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, ac mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gwneud hyn drwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau addas i wahanol oedrannau a diddordebau. Mae categorïau’r gweithgareddau a’r adloniant yn cynnwys cerddoriaeth, gwyddoniaeth, llenyddiaeth, theatr, dysgu Cymraeg, dawnsio, celfyddydau gweledol a llawer iawn mwy. Gwrandewch ar lais hyfryd y mezzo-soprano o Gymru, Katherine Jenkins, wrth i chi gymryd rhan mewn dawnsio gwerin traddodiadol a syrthio mewn cariad â’r ffordd Gymreig o fyw!

Mae’n bleser gan GwirVol fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Byddwn mewn pafiliwn o’r enw Sbardun, ac yno byddwn yn hyrwyddo ein cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli, y grantiau y gall mudiadau wneud cais amdanynt a’r holl wasanaethau a’r gefnogaeth y gallwn eu cynnig. Byddwn hefyd yn gofyn i bobl ifanc am wirfoddoli ac yn cynnal cystadleuaeth i ennill Tocynnau Rhodd y Stryd Fawr. Bydd GwirVol yn manteisio ar y cyfle hwn i ddangos rhai o’n prosiectau hefyd. Bydd cyfle hefyd i gyfarfod â GwirForce, grŵp o wirfoddolwyr ifanc sy’n cefnogi gwaith GwirVol a fydd yn siarad am eu gwaith yn ardal gweithgareddau Sbardun ddydd Gwener 6ed Awst rhwng 1 a 2pm.

Heb os, y cwestiwn pwysig sydd ar feddyliau pawb erbyn hyn yw sut mae gwirfoddoli yn y digwyddiad hwn? Gyda mynediad am ddim i’r digwyddiad a’r cyfle i fod yn rhan o un o wyliau diwylliannol cystadleuol mwyaf Ewrop, pwy na fyddai’n manteisio ar y cyfle i wirfoddoli? Mae’r Eisteddfod Genedlaethol mor llwyddiannus oherwydd y llu o 300 o stiwardiaid gwirfoddol - hebddynt, ni fyddai modd cynnal y digwyddiad. Maen nhw’n ymroi eu hunain i’r ŵyl gan eu bod wrth eu boddau’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Yr unig ofyniad y mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gofyn amdano yw bod ymgeiswyr dros ddeunaw oed ac yn iach. Nid oes yn rhaid cael profiad blaenorol oherwydd caiff y gwirfoddolwyr ddiwrnod o hyfforddiant lle byddant yn dysgu am gymorth cyntaf a diogelwch tân - bydd adeiladu ar eich sgiliau’n gwella eich CV hefyd. Os hoffech wneud cais i fod yn wirfoddolwr yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 yna ewch i’w gwefan drwy glicio’r ddolen isod.

http://www.eisteddfod.org.uk/

Hefyd, os hoffech brynu tocynnau ar gyfer yr ŵyl yna cliciwch y ddolen ganlynol: http://www.eisteddfod.org.uk/

Dim yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r unig sefydliad sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a gwirfoddoli. Mae llawer o sefydliadau eraill sy’n annog y pethau hyn. Mae’r Urdd yn fudiad sy’n trefnu gweithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg ledled Cymru. Nod yr Urdd yw pwysleisio nad oes yn rhaid i bobl fyw yn y cymoedd i ddysgu Cymraeg. Mae’r Urdd yn cynnig cymuned i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae’r mudiad yn annog gwirfoddolwyr i ryngweithio, i ddysgu ac i gymdeithasu yn Gymraeg. Mae’r Urdd yn cynnal gweithgareddau i wirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn; mudiadau fel y rhain sy’n cadw’r iaith Gymraeg yn fyw. Mae gan yr Urdd aelodau enwog hefyd. Ymysg y rhain mae’r darllenydd newyddion Huw Edwards, a’r canwr byd enwog Bryn Terfel.

Mae’n amlwg ei bod yn bwysig bod pobl yn gwirfoddoli mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ymuno â mudiadau fel yr Urdd, fel y gall Cymru gadw ei diwylliant a’i hiaith. I gefnogi un o brif ddigwyddiadau Cymru, gwirfoddolwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol, neu ddod yn aelod o’r Urdd, a gwneud eich marc yn hanes Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol cliciwch y ddolen isod.
http://www.eisteddfod.org.uk/
Hefyd, os hoffech ddysgu mwy am yr Urdd, ewch i’w gwefan drwy glicio’r ddolen ganlynol: http://urdd.org/

Cofiwch ddod i weld GwirVol yn Sbardun yn yr Eisteddfod. Byddwn yno drwy gydol yr wythnos a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi!
 


 
Nodi tudalennau a Rhannu