Chwefror- Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Golwg Gyffredinol ar Wirfoddolwyr y Mileniwm
Croeso i’r tudalennau ar y we sy’n rhoi sylw i raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm. O’r 1af Ebrill 2011 ymlaen, bydd yn rhan o’r fenter GwirVol!
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm wedi bod ar waith ers 1998 ac yn y cyfnod hwnnw mae dros 14,500 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru wedi cymryd rhan. Nod syml iawn sydd i’r rhaglen - cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr ifanc i sefydliadau ledled Cymru. Gwneir hyn drwy gyflwyno tystysgrifau 50, 100 a 200 awr. Caiff y dystysgrif olaf hon ei llofnodi gan Brif Weinidog Cymru.
Mae’n edrych yn dda ar eich CV, mae cymryd rhan yn llawer o hwyl a’r unig beth sy’n rhaid i chi ei gyfrannu yw eich amser. Does dim rhaid i chi sefyll unrhyw arholiadau a gallwch ddefnyddio diddordeb neu hobi fel pwynt cychwyn.
Os ydych chi rhwng 14 a 25 oed ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am hyn, yna ewch i’n tudalen gwybodaeth i bobl ifanc am Wirfoddolwyr y Mileniwm yma.
Os ydych chi’n sefydliad ac mae gennych ddiddordeb mewn rhoi rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm ar waith neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth amdani, yna cliciwch yma.
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am wirfoddoli drwy ymweld â’n tudalen newyddion yma.
Mae gennym ddigonedd o syniadau am sut i ddatblygu ac ehangu rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm dros y blynyddoedd nesaf – mae croeso i chi daro golwg drostynt yma.
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn rhan o gynllun sydd ar waith ledled y DU, yn cynnwys yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a dan y teitl ‘V’ yn Lloegr. Mae pob ardal yn y DU wedi cytuno i 9 Egwyddor Allweddol Gwirfoddolwyr y Mileniwm, sef y dylai cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc ddangos y nodweddion canlynol:–
- Ymrwymiad personol
- Budd i’r gymuned
- Cymryd rhan yn wirfoddol
- Perchnogaeth gan y bobl ifanc
- Ansawdd
- Cydnabyddiaeth
- Cynhwysiant
- Amrywiaeth
- Partneriaeth




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: