Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Ydych chi’n teimlo’n ddifflach ac yn ddi-her, yn teimlo nad ydych chi’n cael eich gwerthfawrogi digon? Wrth wirfoddoli gyda’r gwasanaethau mewn lifrai, cewch gyfle i ddod o hyd i’ch galwedigaeth, dwyn budd i’ch cymuned a rhagori mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.

Crynodeb Cyflym

Ceir miloedd o gyfleoedd gwirfoddoli mewn sawl gwahanol faes er mwyn eich ysbrydoli i helpu eich cymuned a helpu, efallai, i newid llwybr eich gyrfa, ond un maes yn arbennig sy’n cynnig her a chyfleoedd galwedigaethol ar gyfer gwirfoddolwyr yw’r gwasanaethau mewn lifrai. Mae Heddlu Gogledd Cymru, un o bartneriaid cynllun GwirVol, (a nifer o sefydliadau eraill megis Ambiwlans Sant Ioan a’r gwasanaeth tân) yn cynnig cyfleoedd mawr ar gyfer darpar wirfoddolwyr i gymryd rhan i helpu eu cymuned leol ac i’w cyflawni gydag ysbrydoliaeth ac awydd i ffynnu.

Mae gwirfoddoli yn rhoi mantais i chi

Mae oedolion ifanc sy’n bendant bod eu dyfodol o ran gwaith yn y gwasanaethau mewn lifrai ond nad ydynt yn barod eto oherwydd oed neu brofiad, yn lwcus. Mae llawer o'r gwasanaethau mewn lifrai yn cynnig cynlluniau gwirfoddoli er mwyn rhoi cyfle i oedolion ifanc gymryd rhan yn y maes sydd o ddiddordeb iddynt. Gall hyn roi oedolion ifanc ar ben ffordd yn y diwydiant o’u dewis wrth i’w profiadau gwirfoddol roi sgiliau a gwybodaeth iddynt a fydd, efallai, yn rhoi’r fantais iddynt pan ddaw’n fater o gystadlu am waith yn nes ymlaen yn eu bywyd. Neu, mae oedolion sy’n teimlo eu bod mewn galwedigaethau nad ydynt yn rhoi boddhad iddynt, ac sydd am gael profiad o yrfaoedd newydd, yn gallu gwirfoddoli am gyn lleied ag awr yr wythnos er mwyn rhoi cynnig ar wahanol lwybrau gyrfaoedd. Ar ôl i’r gwirfoddolwr ddod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb iddo, gall roi mwy o oriau i'r mudiad. Bydd gwirfoddoli yn cael ei gydnabod hefyd. Ar ôl i’r gwirfoddolwr wneud cryn dipyn o waith gwirfoddol, mae’n bosib iddynt gael gwobrau wedyn. Mae’r gwobrau cydnabyddedig hyn yn edrych yn wych ar eich CV, a byddant yn dangos eich bod yn berson sy’n annibynnol ac yn ymroddedig. Bydd hyn yn fuddiol iawn i gefnogi’ch cais am waith. Os byddwch chi’n symud ymlaen i weithio, does dim rhaid i chi roi’r gorau i wirfoddoli! Ar ôl i wirfoddolwyr ddod o hyd i’w galwedigaeth oes, gallant barhau i wirfoddoli.

Pa Wasanaethau mewn Lifrai sy’n cynnig cyfleoedd Gwirfoddoli?

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig rhaglen hyfforddiant dros ddwy flynedd i’r rheini sy’n dymuno bod yn blismyn. Bwriedir i’r cwrs roi syniad i oedolion ifanc o rôl plismyn. Gan fod llawer iawn o ddiddordeb wedi bod yn y rhaglen hon, nid yw Heddlu Gogledd Cymru ond yn gallu recriwtio 160 o gadetiaid ar y tro sy’n frwdfrydig ac yn awchu am yrfa gyda’r heddlu. Bydd gofyn i’r cadetiaid fynd i sesiynau wythnosol, ac yn y cyfarfodydd hyn addysgir y cadetiaid am gyfraith heddlu sylfaenol ac am sgiliau adeiladu tîm. Yn ystod y gwyliau ac ar benwythnosau, bydd y cadetiaid yn cymryd rhan mewn cynlluniau atal troseddu, prosiectau cymunedol a digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn y gorffennol mae cadetiaid wedi cael y cyfle hyd yn oed i gwrdd ag Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Edward. Ar ôl i’r cadetiaid raddio ar ôl dilyn y rhaglen, mae’r mwyafrif ohonynt yn mynd ymlaen i ymgeisio am swydd gyda’r heddlu.

I wneud cais am le ar y rhaglen, mae’n rhaid i gadetiaid addawol fyw yng Ngogledd Cymru ac mae’n rhaid iddynt fod yn o leiaf 16 mlwydd oed pan fydd y rhaglen yn cychwyn. I gael gwybod mwy, edrychwch ar wefan Heddlu Gogledd Cymru:

http://www.north-wales.police.uk/nwpv2/en/recruit/cadetsHome.asp

Mudiad arall sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y gwasanaethau mewn lifrai yw Ambiwlans Sant Ioan. Mae Ambiwlans Sant Ioan yn elusen sy’n rhoi gwasanaeth cymorth cyntaf i bobl ledled y wlad. Mae’r elusen yn darparu hyfforddiant cymorth cyntaf i wirfoddolwyr. Mae meddu ar sgiliau yn y math hwn o hyfforddiant yn golygu y gallech chi wella anafiadau, atal clwyfau rhag mynd yn waeth ac achub bywydau yn y pen draw. Mae’r cyfle hwn i ddysgu yn fuddiol hefyd oherwydd gallai fod yn llwybr mynediad i’r GIG. Gall gwirfoddolwyr ifanc weithio at hyfforddiant Lefel 2 am ddim gyda’r elusen, ac mae hyn yn cyfateb i 5 TGAU gradd A – C. Mae llawer o’r gwirfoddolwyr ifanc heb ennill cymwysterau TGAU o gwbl, a drwy ennill cymwysterau gyda’r elusen, mae’n bosib iddynt anelu at gael gyrfa yn y sector iechyd. Hefyd, nid gwaith cymorth cyntaf yw’r unig swyddogaeth sydd ar gael gydag Ambiwlans Sant Ioan. Mae angen pobl sy’n codi arian, arweinwyr ieuenctid, trysoryddion ac ysgrifenyddion ar yr elusen.

Os hoffech fod yn aelod o Ambiwlans Sant Ioan, yna llenwch y ffurflen ymholiadau syml ar eu gwefan drwy glicio’r ddolen:

http://www.stjohnwales.org.uk/volunteering/adult/adult_contact.asp

Peidiwch â derbyn ein gair ni, gofynnwch i’r gwirfoddolwyr!

Wrth edrych ar y cyfleoedd gyda’r gwasanaethau mewn lifrai, mae’n amlwg bod gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau di-ben-draw ac mae, i bob pwrpas, yn gwella’ch CV. Mae’n bosib y byddai’r manteision hyn yn ddigon i annog rhywun i wirfoddoli, ond ceir elfennau cadarnhaol eraill hefyd sy’n deillio o wirfoddoli gyda’r gwasanaethau mewn lifrai. Mae gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan neu gyda Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn ffordd o hudo plant rhag troi at fywyd peryglus ar y stryd, gan eu gwneud yn llai tebygol o fandaleiddio a difrodi eu cymuned. Mae gwirfoddolwyr, sy’n aelodau o gadetiaid Heddlu Gogledd Cymru, yn cael effaith sylweddol yn eu cymuned i leihau lefel troseddu, ac mae gan wirfoddolwyr gydag Ambiwlans Sant Ioan y gallu i achub bywydau bob dydd. Mae’n amlwg bod y ddau wasanaeth yn cael effaith enfawr ar gymunedau lleol, felly pa bynnag mudiad y mae’r gwirfoddolwr yn gweithio iddo, dylent fod yn falch eu bod yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, i bobl eraill, ac iddynt hwy eu hunain.

Mae gwirfoddolwyr ar Raglen Cadetiaid yr Heddlu yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau ar y cynllun dwy flynedd. Er enghraifft, caiff cadetiaid gyfle i fynd at y gwasanaethau tân i ddysgu am ddiogelwch rhag tân a sut beth yw bod yn ddiffoddwr tân. Wrth edrych ar luniau trip diweddar cadetiaid Llanelwy i’r orsaf dân, mae’n amlwg bod y diwrnod wedi bod yn hwyliog ac yn addysgiadol hefyd i’r cadetiaid. Yn yr un modd, mae gwirfoddolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan, James Stuart, sy’n Swyddog Ieuenctid Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth Canolbarth Cymru, yn siarad am ei fwynhad wrth helpu gyda’r elusen.

‘Yn ogystal â fy Rôl Ranbarthol, rwy hefyd yn Ymatebydd Cyntaf yn Is-adran Rhaeadr ac mae gofyn i mi fod ar ddyletswyddau cyhoeddus gyda’r is-adran.’

Mae James yn cael cymaint o fwynhad o fod yn wirfoddolwr, mae wedi bod yn helpu gydag Ambiwlans Sant Ioan ers dau ddegawd.

‘Ymunais ag Ambiwlans Sant Ioan Cymru fel ‘Badger’ bron i 20 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn rwy’n gweithio’n agos gyda’r Arweinwyr Ieuenctid i helpu ein haelodau iau yn ein hamrywiol gystadlaethau i bobl ifanc. Mae fy rôl yn rhoi llawer o fwynhad gan fy mod yn cael annog pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, magu eu hyder a dod yn aelodau mwy cyfrifol o’r gymdeithas.’

Wrth feddwl tybed a yw gwirfoddoli yn y gwasanaethau mewn lifrai’n gallu mynd braidd yn ddiflas, mae James yn anghytuno’n gryf.

‘Mae’r digwyddiadau yr awn iddyn nhw yn amrywio o wythnos i wythnos – efallai y byddwn ni mewn sioe fach bentref un diwrnod lle na fydd angen triniaeth ar neb, a’r diwrnod wedyn efallai y byddwn ar ddyletswydd mewn digwyddiad beiciau motorcross mawr ac yn brysur iawn yn trin hyd at 10 o gleifion.’

‘Fy hoff ddigwyddiad yw'r Sioe Amaethyddol; mae’r digwyddiad yn dod â holl Ranbarthau Canolbarth Cymru at ei gilydd. Bydd dros 80 o wirfoddolwyr yn bresennol ac mae’r digwyddiad yn brawf go iawn o sgiliau. Yn ystod pedwar diwrnod y sioe, byddwn yn trin oddeutu 500 o gleifion.’

Mae James yn sôn hefyd fod ambiwlans Land Rover Rhaeadr wedi ei gwneud hi’n haws gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan.

‘Gartref fydda i, gan amlaf, pan fydda i’n gweithio ar ambiwlans Land Rover Rhaeadr. Mae’r ambiwlans yn mynd i bob man bron ac mae ganddo aradr eira y gellir ei roi ymlaen yn y gaeaf. Mae’r ambiwlans hwn wedi ei gwneud yn haws o lawer i gyrraedd cleifion mewn ardaloedd gwledig. Flwyddyn yn ôl, bydden ni wedi gorfod cerdded am filltiroedd – nawr, rydyn ni’n gyrru. Mae’r ambiwlans yn fach i weithio ynddo, ond mae’n werthfawr tu hwnt. Wrth yrru mewn rhannau oddi ar y ffordd mae’n rhaid i finnau a’r gwirfoddolwyr eraill fod yn barod am unrhyw beth ond mae gyrru yn yr ambiwlans yn rhoi gwên ar fy wyneb bob amser.’
 

Efallai bod sawl peth yn cymell gwirfoddolwyr i benderfynu helpu gydag Ambiwlans Sant Ioan am gyn hired, ond mae gan James un rheswm pendant.

‘Mae bod yn aelod o Ambiwlans Sant Ioan wedi gwneud i mi deimlo balchder go iawn o roi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned a helpu mewn ffordd sydd mor werthfawr i’r dref. Mae’n golygu bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn werth pob eiliad. Mae gallu gwneud gwahaniaeth neu allu cynnig cysur i deulu claf yn rhywbeth mor fach ac mor hawdd ei wneud ond mae’n rhywbeth sy’n cael ei ddiystyru’n aml iawn.’

‘Mae fy ffrindiau a fy nheulu yn meddwl mod i’n treulio gormod o amser yn gwirfoddoli ond rwy’n siŵr y bydden nhw’n gwirfoddoli pe bydden nhw’n gallu gweld y gwahaniaeth a geir wrth roi ychydig bach o’ch amser yn wirfoddol.’

Ymddengys bod gwirfoddoli, efallai, yn gallu eich tywys i’r cyfeiriad cywir os ydych chi am gael gyrfa gyda’r heddlu, neu yn y sector iechyd. Fodd bynnag, mae gwirfoddoli yn y meysydd hyn wedi dangos hefyd bod gwirfoddoli yn y sector cyhoeddus yn gallu datblygu sgiliau personol rhywun, gan roi hyder i wirfoddolwyr, ac mae hyn felly yn eu gwneud yn fwy annibynnol. A oes unrhyw elfennau negyddol i wirfoddoli, tybed? Ymddengys nad oes. Mae modd edrych ar wirfoddoli gyda’r gwasanaethau hyn fel ffordd o gyfoethogi eich bywyd chi ac eraill.

 


 
Nodi tudalennau a Rhannu