Stori Tracey
Stori Tracey
Mae Tracey Hanson yn 24 oed ac yn gwirfoddoli mewn creché ers tua blwyddyn. Ymunodd Tracey â Gwirfoddolwyr y Mileniwm ychydig fisoedd yn ôl gan ei bod yn hoffi'r syniad o ennill tystysgrifau am ei gwaith gwirfoddol, ac mae eisoes wedi cyflawni ei 100 awr.
Mae Tracey yn adrodd ei stori yn gwirfoddoli er 2002, pan ddechreuodd ddefnyddio cadair olwyn am y tro cyntaf, a'r digwyddiadau dilynol a arweiniodd ati'n bod yn wirfoddolwraig. Cyn Nadolig 2002, roedd Tracey yn hyfforddwraig pêl-droed a rygbi gymwys. Roedd yn hyfforddi ei thîm pêl-droed ei hun, a gofynnwyd iddi ymarfer gyda thîm merched Arsenal. Ar ôl i Tracey fynd i lewyg adeg y Nadolig, roedd yn rhaid iddi ailddysgu llawer o bethau, megis dysgu sut mae ysgrifennu a nofio, ac mae hefyd yn cael trafferth cofio rhai pethau o'r gorffennol.
Gan fod Tracey wedi bod yn hoff iawn o chwaraeon yn y gorffennol, roedd y ganolfan ddydd y mae’n ei mynychu nawr yn gefnogol iawn wrth ei rhoi mewn cysylltiad â’r Rheolwr Perfformio Cenedlaethol ar gyfer chwaraeon i bobl anabl. Yn sgil hyn, cafodd Tracey wahoddiad i ymarfer gyda’r tîm Paralympaidd ar gyfer y ddisgen, y waywffon a thaflu maen.
Ers hynny, mae Tracey wedi ennill llawer o fedalau ym mhencampwriaethau Gwlad Belg, ym mhencampwriaethau agored Manceinion ac ym Mhencampwriaethau’r Byd CP-ISRA .
Y dyddiau hyn, mae Tracey yn mynd i ysgolion i roi sgyrsiau am ymwybyddiaeth o anabledd ac yn gwirfoddoli mewn creché. Dyma sydd gan Tracey i’w ddweud am ei gwaith gwirfoddol; .
“Penderfynais wirfoddoli yn y creché am fy mod yn mwynhau gweithio gyda phlant. Rwy’n gwirfoddoli dair gwaith yr wythnos ac mae fy hyder a'm hunanwerth wedi gwella ers i mi ddechrau gwirfoddoli.
Rwy’n hoffi helpu yn y creché oherwydd caf foddhad wrth weld y plant yn cyrraedd cerrig milltir newydd.Fy nghyflawniad mwyaf hyd yma yw pan oedd gan fachgen bach yn y creché nam ar ei leferydd ac roedd yn ei chael yn anodd cyfathrebu ag eraill, ond dechreuodd siarad â mi wrth iddo ymddiried ynof. Rwyf wedi dysgu sut mae helpu gyda hylendid plant a gofalu am blant ifanc yn gyffredinol; bydd hyn yn sylfaen dda i mi ar gyfer pan gaf blant fy hun. Rwyf hefyd wedi dysgu sut mae gweithio fel aelod o dîm a chyfathrebu’n briodol yn y gweithle gan ei bod yn rhaid i mi helpu i gadw'r logiau dyddiol. Rwyf hefyd wedi dysgu sut mae gweithio o fewn y ddeddf diogelu data.
Rwyf wir yn mwynhau gwirfoddoli gan fy mod wedi magu llawer mwy o hyder ac rwyf wedi dod yn unigolyn mwy cadarnhaol. Byddwn yn argymell gwirfoddoli i eraill gan ei fod yn dwyn llawer o foddhad a phleser.”




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: