Stori Tim
Stori Tim…
Bûm yn gwirfoddoli ym Mar Coffi Oasis yng Nghanolfan Methodistaidd St. Paul, Aberystwyth am 2 flynedd. Fe wnes fwynhau yno’n fawr iawn er ei bod yn dawel iawn weithiau ac nid oedd digon o waith i’w wneud. Fi oedd yn gwneud y te, y coffi a’r brechdanau i’r cwsmeriaid. Gorffennais wirfoddoli yno ym mis Gorffennaf 2009.
Yn ogystal â Chanolfan Methodistaidd St Paul, ymunais â’r tîm garddio yn Llanerchaeron ger Aberaeron. Rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl yno pan fydd y tywydd yn cynhesu oherwydd fy mod yn cael problemau gyda fy nghymalau yn y gaeaf.
Ym mis Mawrth 2009 dechreuais wirfoddoli gyda Radio Bronglais. Fy rôl yno yw gwirio cannoedd o CDau sydd wedi’u rhoddi i’r orsaf i wneud yn siŵr nad ydynt wedi eu niweidio neu’n anaddas ar gyfer eu darlledu. Rwy’n mwynhau’r gwaith hwn yn fawr iawn. Ryw hefyd yn aelod gweithgar iawn o bwyllgor Radio Bronglais ac yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: