Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Neil Chadwick – Y Sgowtiaid ac Ambiwlans Sant Ioan

Yn fy swydd fel arweinydd y sgowtiaid, yr wyf wedi cael digonedd o gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau na fyddwn wedi eu profi fel arall, fel dringo creigiau a mynd i Barc Gilwell ar gyfer diwrnod agored, a oedd yn ysbrydoliaeth i mi fel gwirfoddolwr newydd. Yr haf diwethaf treuliais sawl wythnos yn rhoi help llaw yn Jamborî Sgowtiaid y Byd yn Essex, ac rwyf wedi rhoi fy enw i lawr i fynychu’r nesaf yn Sweden yn 2011. Yr oedd yn brofiad bythgofiadwy cael cwrdd â chymaint o bobl o bob cwr o’r DU a thu hwnt sydd i gyd wedi ymroi i un achos. Credaf fod fy mrwdfrydedd a fy ymroddiad wedi bod yn gaffaeliad mawr i fy Ngrŵp, ac mae wedi galluogi’r oedolion a’r bobl ifanc i fwynhau’r Sgowtiaid a gweld y mudiad yn tyfu. Cewch gymaint ohono ag yr ydych yn ei roi iddo, mae’n rhywbeth y gallaf ymfalchïo ynddo.’

Mae gwirfoddoli ag Ambiwlans Sant Ioan yn rhywbeth arbennig iawn. Fel sefydliad mae’n cynnig gymaint o gyfleoedd mewn cymaint o feysydd gwahanol, ac yr ydych yn cael llawer yn ôl am eich cyfraniad. Ni allaf ddychmygu fy hun heb fod yn aelod gan y byddaf bob amser yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl fel tâl am bopeth yr ydw i wedi’i gael. Er enghraifft, yr wyf wedi cael fy hyfforddi i ddefnyddio cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig (AED) ac yr wyf mewn sefyllfa i helpu mwy a mwy o bobl gyda’r wybodaeth hon. Mae’n gyfle gwych gan eich bod yn cael cwrdd â phob math o bobl ac i wneud ffrindiau newydd ac mae’n fonws cael bod ar ddyletswydd mewn pob math o ddigwyddiadau cyffrous yn eich ardal. Er enghraifft, yr wyf wedi bod ar ddyletswydd yn lleol ym Mhenarth, mewn gemau pêl droed ym Mharc Ninian, cyngherddau a sioeau tryciau mawr yn Stadiwm y Mileniwm, mae rhywbeth ar gael at ddant pawb ac mae’r hunan foddhad a geir wrth helpu pobl mewn angen yn fythgofiadwy.
 


 
Nodi tudalennau a Rhannu