Lorna Worrall - Geidiaid
Yr hyn y mae Lorna Worral yn feddwl am wirfoddoli
Pam wnaethoch chi ddechrau gwirfoddoli?
Dechreuais wirfoddoli yn y lle cyntaf er mwyn cwrdd â phobl newydd ac i gael profiadau newydd wedi dod yn ôl i’r ardal yn 2008. Yn ogystal bûm yn codi arian i Ofal Canser y Fron drwy wneud clustdlysau pinc a gwyn er mwyn datblygu fy niddordeb mewn gwneud gemau.
Ym mis Tachwedd 2008, dechreuais wirfoddoli gyda’r Geidiaid yng Nghei Newydd. Roeddwn eisiau gwirfoddoli gyda phobl ifainc yn y dre lle cefais fy magu. Fel person ifanc yn tyfu i fyny yng Nghei Newydd, roedd gennyf brofiad ac atgofion melys o’r Geidiaid. Ymunais â Geidiaid Cymru er mwyn rhoi’r cyfle i ferched ifainc Cei Newydd ddatblygu’n fenywod ifainc annibynnol drwy’r Geidiaid fel y gwnes i.
Pam wnaethoch chi ymuno â Chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm (MV)?
Mae’r Cynllun MV yn cydnabod y gwirfoddoli yr ydych yn ei wneud yn eich ardal. Mae’n cyfrif yr holl oriau o wirfoddoli yr ydych yn ei wneud, drwy unrhyw fudiad. Roedd hyn yn golygu y gallwn gynnwys y Geidiaid a’r amser a dreuliais yn codi arian i Ofal Canser y Fron.
Mewn 12 mis enillais Fy Nhystysgrifau Gwirfoddoli Mileniwm am 50 awr, 100 o oriau ac am 200 o oriau. O ganlyniad enillais fy Ngwobr Rhagoriaeth.
Ydy Gwirfoddoli wedi bod o fudd i’ch bywyd cymdeithasol neu’ch gwaith mewn unrhyw fodd?
Yn bendant mae gwirfoddoli wedi gwneud gwahaniaeth i’m gwaith a’m bywyd cymdeithasol. Mae gwirfoddoli gyda’r Geidiaid wedi fy helpu i newid gyrfa o’r gwasanaethau ariannol i ddysgu mathemateg. Helpodd y Geidiaid fi i gymysgu gyda phobl ifainc yn fy ysgol ar lefel gymdeithasol a phroffesiynol.
Rwy hefyd wedi cwrdd â phobl newydd drwy Geidiaid Ceredigion, digwyddiadau cymdeithasol, diwrnodau canmlwyddiant a chael fy anfon ar gyrsiau hyfforddi. Yn ogystal cefais y cyfle i gwblhau Cymhwyster Arweinyddiaeth i Oedolion.
Beth sy’n digwydd wedi Cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm?
Byddaf yn para i wirfoddoli gyda’r Geidiaid er mwyn cwblhau fy Nghymhwyster Arweinyddiaeth i Oedolion. Rwy hefyd yn rhedeg y Ras am Oes yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2010 er mwyn codi arian i Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig.
Os yw fy stori am wirfoddoli wedi eich ysbrydoli, profwch wirfoddoli eich hunan! Rydym bob amser yn chwilio am ragor o bobl i helpu yn y Geidiaid yng Nghei Newydd.




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: