Helen - Geidiaid
Stori Helen
Mae Helen Williams, 24 oed, yn gwirfoddoli gyda Geidiaid Clydach, ac mae'n Arweinydd Geidiaid cynorthwyol yno ers blynyddoedd lawer.
“Dechreuais ymwneud â'r Geidiaid pan oeddwn yn wyth oed drwy ymuno â'r Brownis. Wrth fynd yn hŷn deuthum yn un o’r Geidiaid, ac fel rhan o ddyfarniad Baden Powell fe ymunais â’r ‘gwasanaeth cymorth’. Roedd y gwasanaeth cymorth yn cynnwys helpu mewn uned Brownis leol am nifer o wythnosau, ac roeddwn wedi gwirioni. Daeth fy nghyfnod fel un o’r Geidiaid i ben pan oeddwn yn 14 oed, ac fe ddaliais ati i roi help llaw gyda'r Brownis gan ddod yn arweinydd ifanc ac yn Arweinydd Geidiaid yn ddiweddarach.
Rwy'n gwirfoddoli am amryw o resymau. Cefais amser gwerth chweil pan oeddwn yn un o’r Brownis a’r Geidiaid, a chefais brofiad anhygoel. Cefais gyfle i wneud cymaint o bethau gwahanol, i gwrdd â chynifer o wahanol bobl ac i wneud llawer o ffrindiau. Rwyf eisiau i eraill gael yr un cyfleoedd a gefais i, ac rwyf eisiau iddynt fwynhau, yn yr un modd ag yr wyf finnau’n dal i fwynhau. Does dim byd gwell na gweld y merched yn mwynhau'r gweithgareddau; yn gwenu, yn chwerthin, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn magu mwy o hunanhyder.
Fel un o'r Arweinwyr Geidiaid, rwy'n ymwneud â gwaith trefnu gweithgareddau ar gyfer cyfarfodydd wythnosol ac yn helpu’r Geidiaid i drefnu eu hunain. Rydym yn ceisio rhoi cymaint o gyfrifoldeb â phosibl i’r merched ac yn eu hannog hwy i gynllunio a phenderfynu beth maent yn mynd i’w wneud. Mae hyn yn golygu ein bod weithiau’n treulio’r rhan fwyaf o’n hamser yn eu hannog i weithio fel tîm er mwyn dod i benderfyniad ar y cyd. Rydych yn sôn am gael tua phump neu chwech o ferched ifanc i gytuno ar yr un peth...haws dweud na gwneud! Rwyf hefyd wedi manteisio ar fy nghryfderau fy hun drwy drefnu gweithgareddau. Rwyf wedi trefnu noson thema pêl-droed ac wedi dysgu rhywfaint o Ffrangeg a Sbaeneg i'r Geidiaid!
Rwy’n gwirfoddoli’n rheolaidd am gwpl o oriau’r wythnos yn ystod y tymor a noson neu ddiwrnod ychwanegol ar gyfer digwyddiadau arbennig o bryd i'w gilydd, yn ogystal â phenwythnos neu ddau i ffwrdd bob blwyddyn. Yn fy uned Geidiaid i, rydym yn lwcus o gael nifer o arweinwyr, felly os oes gan rywun drefniadau eraill un noson, gallwn weithio rhwng ei gilydd. O’m profiad i, po fwyaf o waith a wnewch, y mwyaf o foddhad a gewch. Os byddwch yn treulio mwy o amser yn cynllunio gweithgareddau, maent yn fwy llwyddiannus i bob golwg!
Mae gwirfoddoli yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau newydd, i gwrdd â phobl newydd ac i gael syniadau am yrfa. Mae fy nghyfnod gyda’r Geidiaid wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus wrth siarad yn gyhoeddus. Mae'n bendant wedi datblygu fy sgiliau datrys problemau, gan na fydd y gweithgareddau yn mynd rhagddynt fel yr oeddech wedi'i ddisgwyl bob tro – gallwch fod yn siŵr o hynny! Mae bob amser yn rhywbeth y gallaf sôn amdano mewn cyfweliad ac mae'n ffordd wych o ddarparu enghreifftiau defnyddiol o sut yr wyf wedi rheoli gwahanol sefyllfaoedd. Gwn yn bendant ei fod yn creu argraff ar gyflogwyr.
Ni ddywedaf fod gwirfoddoli yn hwyl bob amser. Dwi ddim yn credu y byddai neb yn mwynhau glanhau cawodydd mwdlyd ar ôl i 80 o Geidiaid gael cawod a newid yno ar ôl gwneud cwrs antur hynod fwdlyd! Ond o ddifrif, mae'n fwy heriol ar rai adegau. Rwy’n teimlo fy mod angen seibiant rhwng mynd i’r gwaith a’r Geidiaid er mwyn gallu rhoi o’m gorau yn y cyfarfodydd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd bob tro yn anffodus, a gall y Geidiaid fod yn brawf ar fy amynedd ar yr adegau hynny. Pobl ifanc ydyn nhw wedi'r cwbl ac rwy’n oedolyn arferol! Ond nid yw’n fy mhoeni digon i beidio â bod eisiau gwirfoddoli. Rwyf yn mwynhau gwirfoddoli. Rwy’n teimlo iddo fy helpu i ddatblygu llawer o sgiliau a byddwn yn bendant yn argymell gwirfoddoli i bawb.”




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: