Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Datgelwyd Fiona Maycock fel Gwirfoddolwr y Mileniwm y Flwyddyn Sant Ioan yn y Seremoni Wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Sul 7 Hydref 2007. Ymhlith y gwesteion yn y digwyddiad pwysig hwn oedd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Roy Noble, y darlledwr radio a theledu gyda’r BBC. Derbyniodd Fiona ei gwobr yn gydnabyddiaeth am ei hamser a’i hymroddiad i sefydlu cangen LINKS Bangor o Ambiwlans Sant Ioan. Mae’r cynllun hwn yn gweithio i gynnwys myfyrwyr yn rhan o Urdd Sant Ioan, sy’n hyrwyddo Cymorth Cyntaf ac yn cynorthwyo mewn digwyddiadau yn y gymuned.

Cafodd Gwirfoddolwyr y Mileniwm air â Fiona ar ôl y seremoni i gael gwybod mwy am ei gwirfoddoli a’i chyflawniadau.

Fiona, sut deimlad yw derbyn y wobr hon?

1) Yr wyf yn falch iawn o dderbyn y wobr. Mae’n braf iawn cael fy nghydnabod am fy ngwaith i sefydlu’r uned a hefyd am fy ngwaith yn gyffredinol gyda Sant Ioan Cymru. Mae’n anrhydedd bod y person cyntaf i dderbyn y wobr.

Allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich prosiect?

2) Rwyf yn ceisio sefydlu adran myfyrwyr o Sant Ioan Cymru. Yr enw a roddir ar holl unedau prifysgol y frigâd yw LINKS gan mai’r nod yw cysylltu pobl ifanc â’r adran oedolion yn ogystal â rhoi cyfle i rai sy’n newydd i’r mudiad gael profiad a bod yn rhan o brif fudiad gwirfoddol cymorth cyntaf y DU. Pan ddeuthum i Fangor am y tro cyntaf cefais siom o weld nad oedd adran myfyrwyr yno, gan fy mod wedi bod yn gweithio â Sant Ioan gartref, yr oeddwn yn awyddus i barhau’n aelod o’r mudiad. Gan fy mod wedi gwneud llawer o waith gydag adrannau ieuenctid gartref, gwn pa mor bwysig yw hi i annog datblygiad personol mewn llawer o feysydd, ac nid cymorth cyntaf yn unig. Gwn fod Sant Ioan yn gallu cynnig llawer o raglenni sy’n caniatáu pobl ifanc i adeiladu ar brofiadau blaenorol a pharhau i ddatblygu ond, fodd bynnag, nid oes llawer o adrannau oedolion sy’n rhan o’r mudiad yn ymwybodol ohonynt ac felly nid yw aelodau ifanc yn aml yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Dyma efallai pam mai’r grŵp 16-25 oed yw’r anoddaf i’w recriwtio i’r mudiad. Yn dilyn sefydlu’r unedau LINKS, gall y bobl ifanc hyn (yn ogystal ag unrhyw fyfyriwr arall) gwrdd ag eraill a mwynhau’r manteision o fod yn rhan o grŵp yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol, yn ogystal â dysgu’r sgiliau bywyd allweddol sy’n cael eu cynnig gan Sant Ioan.

Ers pa bryd ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â Sant Ioan?

3) Rwyf wedi bod yn aelod o Sant Ioan Cymru ers bron i flwyddyn bellach. Fodd bynnag, gan fod fy rheini yn aelodau o St. John in the Priory of England and the Islands ers cyn i mi gael fy ngeni, rwyf yn teimlo fy mod wedi tyfu gyda’r mudiad yn rhan ohonof. Deuthum yn rhan o’r Badger Sett pan oeddwn yn 6 oed (mae’r unedau hyn bellach yn derbyn plant rhwng 5 a 10 oed), ac euthum ymlaen i Adran y Cadetiaid ar ôl fy mhen blwyddyn yn 10 oed (mae Cadetiaid ar gyfer rhai 10-18 oed), a dyna pryd y deuthum yn aelod swyddogol o’r mudiad.

Beth mae bod yn wirfoddolwr yn ei olygu i chi?

4) Mae bod yn wirfoddolwr yn eithriadol o bwysig i mi. Mae’n golygu fy mod yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau yr wyf yn byw ynddynt. Ond hefyd, mae gwirfoddoli’n rhoi i mi’r sgiliau a’r profiadau sydd wedi fy helpu drwy’r ysgol, prifysgol a fy mywyd cymdeithasol.

Sut ydych chi wedi defnyddio’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu yn eich bywyd pob dydd?

5) Rwy’n credu mai’r peth pwysicaf yr wyf wedi’i ddysgu gan Sant Ioan yw’r gallu i fod yn hunan hyderus. Mae gweithio â’r Cadetiaid a’r Badgers yn rhoi gallu i mi ryngweithio’n well gyda phobl yr un oed â mi. Yr wyf wrth fy modd yn eu helpu i brofi’r pethau yr wyf wedi eu mwynhau yn ystod fy nghyfnod gyda Sant Ioan ac rwyf wedi gweld eu bod yn elwa ar y penwythnosau preswyl. Dyma’r mannau lle gwelir datblygiad personol ar unwaith bron, ac mae hefyd yn rhoi boddhad mawr i’r oedolion sy’n cynorthwyo. Fodd bynnag, mae fy ngallu i ymdopi mewn sefyllfaoedd a gwybod y gallaf gynorthwyo person sydd angen cymorth cyntaf yn bwysig iawn i ni, ac mae’n rhaid i mi ddiolch i Sant Ioan am hynny.


 
Nodi tudalennau a Rhannu