Cheryl - SYAN
Stori Gwirfoddoli Cheryl ar gyfer digwyddiad SYAN
Mae wedi bod yn bleser cyfri gwaith gwirfoddol yn un o’m diddordebau, ac rwy wedi fy synnu fy hun o weld pa mor hawdd yw gwneud amser iddo o gwmpas ymrwymiadau eraill bywyd, dim ond drwy wneud mymryn o gynllunio.
Gallwch wneud amrywiaeth helaeth o bethau drwy wirfoddoli, a phenderfynais weithio gyda chleifion sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty’n ddiweddar a’u helpu i ail-addasu i fywyd bob dydd unwaith eto. Yn aml mae’r bobl hyn yn unig ac yn awyddus i weld wyneb cyfeillgar i allu cael sgwrs a mwynhau mynd allan â nhw – i wneud ychydig o siopa efallai, neu dim ond i gael rhywfaint o awyr iach. Mae wedi bod yn wych cwrdd â phobl newydd fel hyn, ac maen nhw’n teimlo’r un fath hefyd. Yr anfantais yw y gall fod yn eithaf anodd ffarwelio â’r defnyddiwr gwasanaeth pan ddaw’r amser i symud ymlaen, ond bryd hynny bydd yn rhaid i chi edrych arno fel dechrau antur newydd!
Rwy’n falch iawn fy mod yn gwneud gwaith gwirfoddol yn y modd hwn, ac mae rhywbeth ar gael i bawb. Rwyf wir yn credu y dylai mwy o bobl o bob oed ystyried gwaith gwirfoddol os oes ganddynt awr neu ddwy i’w sbario bob wythnos. Bydd pobl ifanc yn aml yn cael y fantais ychwanegol nad oes ganddynt swydd amser llawn sy’n mynd â’u hamser, a gwelwch fod gwirfoddoli nid yn unig yn rhoi boddhad ac yn rhywbeth i’w roi ar eich CV, ond hefyd yn llawer o hwyl!




Byddwch yn rhan o'r gymdeithas gyda ni: