Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Taith Gwirfoddoli Andrew gyda’r Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol Cymdeithas (ICVA)

Wedi cyflwyniad gyda Chynghorwr Gwirfoddoli Ieuenctid CAVO (YVA ), roedd gennyf ddiddordeb mewn gwirfoddoli yng Ngheredigion. Yn ychwanegol at waith fel myfyriwr, roeddwn eisiau gwneud gwaith gwirfoddol ochr yn ochr â’m diddordeb arbennig yn y gyfraith. Yn dilyn cyfarfod arall â’r YVA trafodwyd pa gyfleoedd oedd ar gael a pha gyfleoedd oedd yn apelio ataf.
Yn dilyn hyn, gwnaed cais i gynllun gwirfoddol lleol o’r enw Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol Cymdeithas (ICVA). Mudiad gwirfoddol sy’n gweithio yn y system droseddol yw’r ICVA, ac mae’n cefnogi’r heddlu i gyflawni eu dyletswydd statudol i ddarparu arolygaeth annibynnol i bobl sydd yn y ddalfa.

Ar ôl cyfarfod anffurfiol gwahoddwyd fi nôl gydag 8 o ymgeiswyr a ddewiswyd i gael cyfweliad am ddwy swydd ar gael. Bûm yn llwyddiannus ac ym mis Rhagfyr cofrestrwyd fi’n Ymwelwr Annibynnol â’r Ddalfa (ICV).

Fy rôl yn y mudiad hwn yw gwneud dau ymweliad y mis â gorsafoedd yr heddlu yn Aberystwyth. Rydym bob amser yn gweithio mewn parau ac yn newid rota’r ICVau. Rydym yn sicrhau bod pobl a gedwir yno yn cael gofal da yn unol â’u hawliau statudol. Byddwn yn arsylwi ac yn gwneud sylwadau ar gyflwr cyffredinol y gorsafoedd a’r bobl a gedwir yno. Gwneir hyn drwy roi adroddiad bob tro y byddwn yn gwneud ymweliad, ac i sicrhau ein bod yn effeithiol, gwneir pob ymweliad ar hap ac yn ddirybudd. Rhaid imi sicrhau fy mod yn gweithio yn ôl y cod ymarfer ac fe wneir hyn drwy ddiwrnodau hyfforddiant a chyfarfodydd o’r panel.

Ers ymgymryd â’r cynllun gwirfoddoli, rwy wedi ennill llawer o sgiliau gwerthfawr. Rwyf wedi magu hyder personol nawr, ac mae’r profiad wedi cryfhau fy sgiliau cyfathrebu. Bu cymryd rhan yn y cynllun gwirfoddoli o fudd i mi gan imi gael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod o brofiadau newydd na allai fy nghwrs prifysgol eu cynnig. Rwy wedi dod yn ffrindiau da gyda’m cydweithwyr newydd ac wedi gwneud cysylltiadau a allai fod yn fanteisiol i’m gyrfa yn y blynyddoedd i ddod.

Mae gwirfoddoli wedi bob o fudd mawr i mi. Bydd yn para i fod yn ffynhonnell werthfawr yn cynnig cyfleoedd newydd i’r rheini sy’n dymuno cymryd rhan mewn rhywbeth sydd o ddiddordeb iddynt. Roedd gennyf fy rhesymau fy hun dros wirfoddoli a bydd unrhyw un sy’n dymuno gwneud yr un peth yn gwerthfawrogi faint y maent yn ennill o wirfoddoli. Gallaf gymeradwyo gwirfoddoli, nid oes gennyf ond canmoliaeth a diolch am y profiad.
 

 


 
Nodi tudalennau a Rhannu