Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Cyhoeddwyd Comisiwn Russell ddydd Mercher, 16eg Mawrth 2005, ac mae’n dynodi fframwaith ar gyfer cynyddu lefel y cyfranogiad cymunedol gan bobl ifanc ledled y DU, nes bydd gwirfoddoli’n dod yn nodwedd gyffredin yn eu bywydau.

Lluniwyd yr adroddiad o ganlyniad i waith ymchwil a wnaethpwyd ledled y DU yn edrych ar faint mae pobl ifanc yn ei gyfrannu yn eu cymunedau ar hyn o bryd.

Dynododd yr adroddiad terfynol 16 o argymhellion ar gyfer datblygu’r fframwaith ac annog gwneud gwirfoddoli’n gyffredin ymysg pobl ifanc.

Yna, cafodd proses gweithredu’r argymhellion ei datganoli i bedair gwlad y DU a ffurfiwyd partneriaeth yng Nghymru o’r prif fudiadau sy’n cefnogi’r broses o roi’r fframwaith ar waith. Lansiwyd y bartneriaeth hon fel GwirVol ar 6ed Ebrill 2009. I gael mwy o wybodaeth am bartneriaeth GwirVol, cliciwch yma.

Yr adroddiad a’r argymhellion:

I gael gweld yr adroddiad llawn a’r crynodeb gweithredol, gan gynnwys yr 16 argymhelliad, cliciwch yma.
 


 
Nodi tudalennau a Rhannu