Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Ar hyn o bryd ceir 22 o gynghorwyr gwirfoddoli ymysg pobl ifanc rhan amser sydd wedi’u lleoli mewn canolfannau gwirfoddoli leded Cymru.

Nodau cyffredinol Cynghorwyr Gwirfoddoli ymysg Pobl Ifanc yw;

  • Cynyddu nifer ac amrywiaeth y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli
  • Cynyddu nifer ac ansawdd cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Gwnânt hyn drwy:

  • Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc a recriwtio a lleoli pobl ifanc mewn cyfleoedd.
  • Rhoi cyflwyniadau
  • Cynnig cyngor a gwybodaeth i fudiadau ynghylch sut i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n gyfeillgar tuag at bobl ifanc
  • Gosod cyfleoedd newydd ar wefan gwirfoddoli Cymru www.volunteering-wales.net
  • Sefydlu safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lleol (tebyg i bebo a facebook)
  • Llunio cyhoeddusrwydd
  • Cefnogi paneli dyfarnu grantiau dan arweiniad pobl ifanc, fel dull o ariannu cyfleoedd newydd dan arweiniad ieuenctid, ac hefyd fel dull o gynnwys gwirfoddolwyr ifanc fel aelodau o’r panel.

Os oes gennych chi gyfleoedd i bobl ifanc ar hyn o bryd, gallwch hyrwyddo’r rhain drwy’r Cynghorwyr Gwirfoddoli ymysg Pobl Ifanc.

Os ydych chi’n berson ifanc a hoffai ddarganfod beth allech chi ddechrau ymwneud ag ef yn eich ardal, cysylltwch â’ch Cynghorydd Gwirfoddolwyr Ifanc Lleol.
 


 
Nodi tudalennau a Rhannu