Gwirfoddolwyr yn cael eu talu â pharch


 

 
 

Dyfeisio ffyrdd newydd o adnabyddiaeth a gwobrwyo sydd o werth i’r gwirfoddolwr ifanc

Mae GwirVol yn adnabod y pwysigrwydd o adnabyddiaeth a gwobrwyo fel factor o gymhelliant gyda gwirfoddoli. Byddant yn dilyn hyn mewn sawl ffordd.

Gall achrediad fod yn werthfawr yn nhermau datblygiad a chyfleoedd am swyddi. Er enghraifft, mae ‘Amazing Things’ yn yr Alban sef canllaw i wobrwyon ieuenctid yn yr Alban wedi dathlu’r cyfoeth mawr o gyfleoedd a gweithgareddau a gynrychiolir yn y Gwobrwyon hyn mewn un cyhoeddiad. Pwrpas y cyhoeddiad yw amlygu’r cyfraniad mae’r Gwobrwyon yn gwneud i gyraeddiadau pobl ifanc. Mae’n ymdrech ar y cyd rhwng ddarparwyr y gwahanol gwobrwyon. Nid yw’r canllaw yn ‘tabl cynghrair’ neu’n ganllaw ‘Which?’. Mae’r gwobrwyon yn chwarae rhan yng nghefnogi cyrhaeddiad pobl ifanc. Anelir y canllaw at bawb sy rhoi gwerth ar ymdrechion gwirfoddol pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a gwella’r cymunedau o’i hamgylch. Bydd yn ddefnyddio i sefydliadau gwaith ieuenctid, ysgolion, colegau a phrifysgolion, a chyflogwyr.’ (Detholiad o ddogfen ‘Amazing Things’ sydd ar gael ar www.vds.org.uk/)

 

Dylid cydnabod y gwaith!

Mae GwirVol wedi adnabod nifer o gamau bydd yn cymryd dros y 3 mlynedd nesaf mewn perthynas ag achrediad:

  • Byddwn yn darparu gwybodaeth fanwl ar ddulliau o achredu Gwirfoddoli Pobl Ifanc
  • Byddwn yn cefnogi digwyddiad rhwydweithio ble gellir casglu gwybodaeth o sefydliadau achredu
  • Byddwn yn darparu gwybodaeth ar borth GwirVol ar gyfer pobl ifanc a’u cefnogwyr
  • Byddwn yn darparu mynediad at hyfforddiant er mwyn i gefnogwyr pobl ifanc allu gwneud yr achrediad.

Adnabyddiaeth a gwobrwyo

Mae gwirfoddoli’n weithgaredd bositif sy’n gallu cynyddu hunan-barch person ifanc. Gall hefyd atgyfnerthu delweddau positif o bobl ifanc yn y gymuned. YAA

Bydd GwirVol yn helpu dyfeisio, hyrwyddo a hysbysebu system adnabyddiaeth a gwobrwyo, wedi’i harwain gan bobl ifanc, gan gymryd i mewn i ystyriaeth cynlluniau cyfredol megis Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Gallai unrhyw fenter newydd naill ai fod yn atodiad i system wobrwyo cyfredol neu’n system annibynnol.


 
Nodi tudalennau a Rhannu